Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Glantwymyn ar nos Fercher, Mehefin 19eg 2019, cyhoeddodd Urdd Gobaith Cymru mai Maldwyn fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2024.
Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Maldwyn ers 1988 a bydd wedi'i leoli ar gaeau Fferm Mathrafal, ger Meifod.
Mae disgwyl bydd yr Eisteddfod yn dod â 6 miliwn i’r economi leol a thua 90,000 o ymwelwyr yn ymweld â’r Maes rhwng 27 Mai – 1 Mehefin 2024.
Yn ystod yr ŵyl, bydd miloedd o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu am le ar lwyfan y pafiliwn, yn ogystal â chystadlaethau amrywiol eraill i bobl ifanc megis celf a dylunio, trin gwallt a harddwch, stand yp, creu ap a choginio.
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro rai wythnosau yn ôl, cyhoeddodd yr Urdd eu bwriad i gynnal Eisteddfod 2024 ym Maldwyn. Roeddent eisoes wedi trafod gyda Phwyllgor Rhanbarth Maldwyn oedd wedi datgan eu cefnogaeth i’r syniad ac roedd Cyngor Sir Powys hefyd yn gefnogol ac yn awyddus i groesawu’r ŵyl i’r rhan hon o’r sir. Bwriad y cyfarfod heno, felly, oedd mesur y gefnogaeth yn lleol ac ymysg trigolion Rhanbarth Maldwyn er mwyn gwahodd Eisteddfod yr Urdd i’r ardal yn 2024 a chafwyd cefnogaeth unfrydol.
Yn annerch y cyfarfod oedd: Gwenno Mair Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r Celfyddydau; Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd; Cyng. Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Addysg a’r iaith Gymraeg Cyngor Sir Powys; a Morys Gruffydd, Trefnydd Eisteddfod yr Urdd.
Dywedodd Myfanwy Alexander ar ran Cyngor Sir Powys,
‘Bydd yn fraint i Bowys gael croesawu Eisteddfod yr Urdd yn 2024. Roedd yr Eisteddfod ar Faes y Sioe’n llwyddiant ysgubol ac rydym ni’n edrych ymlaen i gydweithio unwaith eto i sicrhau digwyddiad heb ei ail yma yn Nyffryn Dyfi. Mae hon yn un o gadarnleodd yr iaith Gymraeg ac fel Cyngor Sir, rydym croesawu’r cyfle i’w dathlu efo mudiad sy’n bartner mor bwysig i ni yn ein hymdrechion i gryfhau’r iaith ym Mhowys.’