Beth yw Yr Awr Fawr?
Mae'r Awr Fawr yn gyfle i blant cynradd ddod at ei gilydd mewn awyrgylch diogel dros Zoom gyda staff cyfeillgar yr Urdd i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda ffrindiau hen a newydd.
Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?
Oes mae angen i chi fod yn aelod o'r Urdd i gymryd rhan yn Yr Awr Fawr. Ond peidiwch â phoeni gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.
Faint yw'r sesiynau?
Mae holl sesiynau Yr Awr Fawr am ddim i aelodau'r Urdd.
Calendr
Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!

Cacennau Gri i Ddydd Gwyl Dewi
Nos Fawrth, 23 Chwefror 2021
5:00 - 6:00
Mae bron yn Dydd Gŵyl Dewi, beth am ymuno gyda ni i ddysgu sut mae gwneud cacennau gri!
Cofrestru

Sesiwn Clocsio
Nos Fawrth, 2 Mawrth 2021
5:00 - 6:00
Cyfle i chi ddysgu sgil newydd a symud y traed mewn sesiwn clocsio.
Cofrestru

Cwis Kahoot
Nos Fawrth, 9 Mawrth 2021
5:00 - 6:00
Cwis yn llawn hwyl i bawb allu mwynhau a chymryd rhan.
Cofrestru
Sesiwn Drama
Nos Fawrth, 16 Mawrth 2021
5:00 - 6:00
Eisiau bod ar y sgrin fawr neu ar lwyfannau Cymru? Dewch i ymuno a’r sesiwn drama yma i weld os mae actio yw’r peth i ti.
Cofrestru

Celf a Chrefft
Nos Farwth, 23 Mawrth 2021
5:00 - 6:00
Teimlo’n greadigol? Yna ymuna gyda’r sesiwn celf a chrefft pasg.
Cofrestru
Eisteddfod Dwl
Nos Fawrth, 30 Mawrth 2021
5:00 - 6:00
Mae mis Mawrth yn golygu un peth sef Eisteddfodau felly ymuna gyda ni yn yr Eisteddfod hwyl yma. Mi fydd yn llawn hwyl a sbri!
Cofrestru