Ar y gweill mae sesiynau wedi'w harwain gan arbenigwyr ar iechyd meddwl, newid hinsawdd, hawliau merched, LGBT, iechyd rhyw, cyngor gyrfa a mwy.
Yn y cyfnod cythryblus hwn, rydyn ni'n awyddus iawn i roi lle diogel i bobl ifanc siarad yn agored, i ddysgu gan arbenigwyr neu i wrando'n ddienw i ddod o hyd i atebion am y materion sy'n eu heffeithio.
Does dim pwysau i gyfrannu na hyd yn oed dangos eich wyneb yn y sesiynau – mae croeso i chi wrando, dysgu neu ofyn cwestiynau yn ddienw a heb roi eich camra ymlaen.
1. Cofrestrwch ar y sesiynau sydd o ddiddordeb i chi.
2. Ar ddiwrnod y sesiwn fe fyddwch yn derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad.
3. Wedi rhoi'r cyfrinair i mewn, fe fyddwch yn mynd i 'Ystafell Aros', a byddwn yn rhoi caniatad i chi ymuno â'r sesiwn.
Nos Fawrth, 19 Ionawr
19:30 - 20:30
Wedi bwyta gormod dros y Nadolig? Eisiau bwyta'n iach yn 2021?
Ymunwch gyda ni i drafod y ffordd gorau i fwyta'n iach.
Cofrestru
Nos Fawrth, 26 Ionawr
19:30 - 20:30
Ymunwch â ni i drafod Senedd Cymru, a llais pobl ifanc gyda Llywydd y Senedd, Elin Jones, fydd yn cael ei holi gan gyn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, Greta Evans
CofrestruNos Fawrth, 02 Chwefror
19:30 - 20:30
Heno, bydd rhai ffrindiau o Batagonia yn ymuno â ni!
Dewch i ddysgu am eu diwylliant a sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio.
Nos Fawrth, 09 Chwefror
19:30 - 20:30
Wyt ti'n falch o dy rywioldeb? Heb gyrraedd yno eto? Ymuna i glywed am brofiadau eraill a sut allwn ni greu Cymru ble mae pawb yn falch o fod yn nhw eu hunain.
Gyda Stonewall Cymru
CofrestruNos Fawrth, 16 Chwefror
19:30 - 20:30
Am y tro cyntaf gall pobl ifanc 16+ bleidleisio!
Ddim yn siŵr beth mae hyn yn ei olygu? Pam ddylwn i bleidleisio?
Ymunwch â'r drafodaeth fisol a'r diweddariadau yn y cyfnod cyn yr etholiadau.
Cofrestru
Nos Fawrth, 02 Mawrth
19:30 - 20:30
Ymunwch a ni am baned!
Awr o sgwrsio am amryw o bynciau o'ch dewis chi!
CofrestruNos Fawrth, 16 Mawrth
19:30 - 20:30
Am y tro cyntaf gall pobl ifanc 16+ bleidleisio!
Ddim yn siŵr beth mae hyn yn ei olygu? Pam ddylwn i bleidleisio?
Ymunwch â'r drafodaeth fisol a'r diweddariadau yn y cyfnod cyn yr etholiadau.
Cofrestru
Nos Fawrth, 23 Mawrth
19:30 - 20:30
Dim yn siŵr be i wneud fel gyrfa eto? Yn gwybod beth hoffet wneud ond ddim yn siŵr pa gymhwysterau sydd angen arnat?
CofrestruNos Fercher, 30 Mawrth
19:30 - 20:30
Ymunwch a ni am baned!
Awr o sgwrsio am amryw o bynciau o'ch dewis chi!
CofrestruOes rhiad i mi cadw'r camera 'mlaen?
Na does dim rhaid i ti cadw dy gamera 'mlaen yn ystod y sesiwn os nad wyt yn teimlo'n digon hyderus i wneud.
Oes disgwyl i mi siarad a / neu cyfrannu?
Na does dim disgwyl i ti siarad na chyfrannu yn ystod y sesiwn, y pwysig ydy dy fod yn cael allan o'r sesiwn beth wyt ti isio allan ohono. Ond hefyd mae croeso i ti siarad / cyfrannu yn ystod y sesiwn os hoffet hefyd.
Beth os mae pobl eraill yn chwerthin arnaf?
Mi fydd aelodau o staff yr Urdd yn y cefndir yn monitro bob agwedd o'r sesiwn er mwyn sicrhau bod pawb sydd yn y sesiwn yn ddiogel ac saff.
Ydw i'n cael cofrestru am fwy nag un sesiwn?
Wrth gwrs, mae yna croeso mawr i ti cofrestru ar gyfer bob sesiwn os hoffet.
Byddwn yn cael ein rhag rhybuddio os bydd darn o'r trafodaeth sensitif yn mynd i gallu achosi 'triggers'?
Yn ystod y sesiwn os oes unrhyw darn o'r cyflwyniad ble mae'r arweinydd yn meddwl gall hwn achosi poen meddwl i rhwyun mi fydden nhw'n defnyddio'r gair 'Trigger' ac yna mae croeso i ti miwtio / troi'r sain lawr ac ail ymuno wedi'r trafodaeth yna, neu ymadael y sesiwn yn gyfan gwbwl.
Pam bod rhaid i mi llenwi ffurflen cofrestru?
Rydym yn gofyn i bawb llenwi ffurflen cofrestru er mwyn diogelu chi fel pobl ifanc ac hefyd er mwyn weld faint fydd gennym ar y sesiwn. Paid a phoeni ni fydd yr Urdd yn rhannu eich manylion gyda neb arall ( oni bai bod yna achos diogelu plentyn)