Cytgan:

Hei, Mistar Urdd, yn dy goch, gwyn a gwyrdd

Mae hwyl i’w gael ym mhobman yn dy gwmni.

Hei, Mistar Urdd, ty’d am dro ar hyd y ffyrdd

Cawn ganu’n cân i holl ieuenctid Cymru.

Pennill 1:

Gwelais di’r tro cyntaf ’rioed yn y gwersyll ger y lli

A chofiaf am yr hwyl fu yno’n hir.

Dyddiau hir o heulwen haf, y cwmni gorau fu

Ac af yn ôl i aros cyn bo hir.

Cytgan

Pennill 2:

Noson hir o aeaf oer, fe welais di drachefn

Dangosaist fod ’na rywle i mi fynd.

Dyma aelwyd gynnes iawn a chriw ’run fath â fi

A chyfle i adnabod llawer ffrind.

Cytgan

Pennill 3:

Diolch i ti, Mistar Urdd, dangosaist i mi’n glir

Fod gennyt rywbeth gwych i’w roi i mi.

Gwersyll haf a chwmni braf mewn cangen ymhob tre’

A gobaith i’r dyfodol ynot ti.

Cytgan

gweld mwy o weithgareddau