Casnewydd i gynnal Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf erioed yn 2027

Heno (nos Iau 12 Medi 2024) mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghasnewydd, cadarnhaodd Urdd Gobaith Cymru mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027.

Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gwent Is Coed, cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chefnogwyr mewn pleidlais unfrydol i estyn gwahoddiad i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2027 yng Nghasnewydd.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mae’r Urdd a Chyngor Dinas Casnewydd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027. Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Emma Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027. Mae’n gyffrous meddwl y byddwn ni’n dod ag un o ddigwyddiadau blynyddol Cymru, ac un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, i’n dinas am y tro cyntaf erioed. Braf oedd gweld cynifer yn dod i’r cyfarfod heno a chystal cefnogaeth o fewn ein cymuned i gynnal Eisteddfod yr Urdd yma.

“Fel datganwyd yn ôl ym mis Gorffennaf pan roddwyd sêl bendith gan gabinet Cyngor Dinas Casnewydd i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd, rydym ni’n awyddus i gynnwys cymaint o fusnesau a grwpiau cymunedol â phosibl yn y dathliadau, o ganol y ddinas ac ar draws Casnewydd, fel bod cymaint o bobl â phosibl yn profi bwrlwm digwyddiad diwylliannol mawr.

“Mae cynnal yr Eisteddfod yn unol â'n hamcanion o ran cynyddu nifer y plant yng Nghasnewydd sy'n dysgu drwy leoliad addysg cyfrwng Cymraeg, ond hefyd cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ehangach yn y ddinas. Mae’n gyfle gwych, un a allai adael etifeddiaeth gadarnhaol am genedlaethau i ddod, ac edrychwn ymlaen at ddangos y gorau o Gasnewydd i’r genedl unwaith eto!”

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sydd bellach yn denu dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu ac yn cyfrannu miliynau i’r economi leol ble caiff ei chynnal.

Wedi Eisteddfod lwyddiannus ym Maldwyn eleni, mae’r paratoadau wedi hen ddechrau yng Nghastell-nedd Port Talbot, yr ardal fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf. Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam rhwng 26 Mai – 31 Mai.

Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.