Profiad creadigol i blant Cymru
Mae’r Urdd wedi arwain ar brosiect celf a cherddoriaeth creadigol dan arweiniad yr artist Aur Bleddyn, sydd wedi dod â disgyblion ysgolion cynradd ynghyd i greu cyfres unigryw o “furiau cerddoriaeth” o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.
Bu plant o Ysgol Glantwymyn, Ysgol Cerrigydrudion, Ysgol Henry Richard ac Ysgol Llanfairpwll yn cydweithio ar y prosiect, gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailddefnyddio i adeiladu gosodiadau rhyngweithiol sy’n cyfuno celf, sain a chynaliadwyedd.
Bwriad y prosiect oedd annog creadigrwydd, ymwybyddiaeth amgylcheddol a gwaith tîm ymhlith y disgyblion, wrth roi cyfle iddynt archwilio sain a cherddoriaeth mewn ffordd newydd a chreadigol.
Cafodd y prosiect ei ariannu drwy nawdd gan ButeEnergy a CultureStep, Arts & Business.Cafodd y muriau cerddoriaeth eu harddangos yn yGarddorfa yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2026, a gynhaliwyd yn Ynys Môn rhwng 23 a 29 Mai.
Dywedodd Aur Bleddyn:“Mae wedi bod yn brofiad arbennig gweld y plant yn defnyddio eu dychymyg i drawsnewid deunyddiau bob dydd yn weithiau celf sy’n gwneud sain ac yn dod â phobl ynghyd. Mae’r prosiect yn dathlu creadigrwydd, cymuned a gofal dros yr amgylchedd.”
Dywedodd Catryn Newton, Cyfarwyddwr Buddsoddiad Cymunedol a Chyfathrebu ButeEnergy: “Rydym yn falch o bartneru gyda’r Urdd am y trydydd tro ar brosiect sy’n dod â chreadigrwydd, cynaliadwyedd a’r Gymraeg ynghyd. Mae cefnogi diwylliant a threftadaeth Cymru yn ganolog i’n dull Buddsoddi Cymunedol, gan sicrhau bod ein datblygiadau ynni adnewyddadwy yn darparu buddion parhaol i gymunedau. Edrychwn ymlaen at ymweld â'r Garddorfayn ei chyfanrwydd ar y Maes ym Môn.”
Fel noddwr Gerddi y Garddorfa, bu staff ButeEnergy yn helpu i blannu blodau yn y Garddorfaar y Maes wrth i baratoadau barhau ar y Maes. Ychwanegodd yr arddangosfa elfen ryngweithiol a lliwgar i brofiad ymwelwyr yr Eisteddfod eleni.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd: “Mae’r nawdd yma wedi’n galluogi i roi profiadau celfyddydol a chreadigol i dros 100 o blant trwy Gymru. Cafodd y gwaith celf yma ei edmygu gan filoedd o ymwelwyr eleniyn ein hardal ecogyfeillgar ar y maes, Garddorfa, a bydd yn parhau am flynyddoedd i ddod.”