Eryri i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2028

Heddiw (Iau, 11 Medi 2025) cadarnhaodd Urdd Gobaith Cymru mai rhanbarth Eryri, Gwynedd fydd yn croesawu Eisteddfod yr Urdd 2028.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar gyfer gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, ar nos Fercher 24 Medi. Mae’r Urdd a Chyngor Gwynedd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.

Y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld â rhanbarth Eryri oedd yn Glynllifon ger Bangor yn 2012.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Pleser yw cael cefnogaeth Cyngor Gwynedd i gynnal yr Eisteddfod yn 2028. Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r gymuned yn ogystal â’r Cyngor dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Rwyf yn hynod falch fod Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod cyn yr haf wedi cytuno i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028. Bydd yn bleser gallu cynnig llety i’r wŷl arbennig ac unigryw yma sy’n dathlu creadigrwydd, dawn ac ymroddiad ein pobl ifanc yn ogystal â’r diwylliant Cymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn arw ac yn croesawu cydweithrediad efo’r Urdd sy’n gwneud gwaith arbennig!”

Mae’r Urdd yn annog pawb sydd eisiau mynychu’r cyfarfod cyhoeddus, ymuno â phwyllgor neu enwebu swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith i lenwi’r ffurflen hon.

Eisteddfod yr Urdd yw un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, sydd bellach yn denu dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu ac yn cyfrannu miliynau i’r economi leol ble caiff ei chynnal.

Wedi Eisteddfod Dur a Môr yng Nghastell-nedd Port Talbot eleni, mae’r paratoadau wedi hen ddechrau ar Ynys Môn, fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf, ynghyd â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.