Cyfres Trawsgwlad Urdd - Athletau Cymru
Mae'r Urdd wedi partneru gyda Athletau Cymru i gynnal cyfres o rasys Trawsgwlad Ysgolion Cynradd ar draws Cymru. Bydd y rasys yn digwydd cyn cystadleuaeth trawsgwlad i gyfranogwyr hyn genedlaethol a rhyngwladol sy'n cael eu trefnu gan Athletau Cymru.
Lleoliadau
Caerdydd - 11 Tachwedd 2023
Y Drenewydd - 18 Tachwedd 2023
Aberhonddu - 17 Chwefror 2024
Cofrestru
Gallwch gofrestru nawr ar gyfer unrhyw un o'r cystadlaethau uchod trwy ddilyn y linc sydd ar y dudalen yma.
Rasys
Bydd un ras ar gyfer merched a bechgyn Bl.3-4 ac un ras ar gyfer bechgyn a merched Bl.5-6. Mi fydd yna wobr unigol i safleoedd 1af i 3ydd. Ac mi fydd gwobrau i'r ysgolion gorau hefyd.
Os mae gennych unrhyw gwestiynau plîs cysylltwch â ni: chwaraeon@urdd.org / 02922405337
Trawsgwlad Aberhonddu
Mi fydd Pencampwriaeth Traws Gwlad Athletau Cymru yn cymryd lle yn Aberhonddu eleni. Fel rhan o'r wyl mi fydd rasys Cynradd yn cael eu chynnal gyda ras i merched a bechgyn bl.3-4 a bl.5-6.
Dyddiad: 17 Chwefror 2024
Amser: 11:00yb - Merched bl.3-4 a Bechgyn bl.3-4 - 1 x Lap Bach
11:10yb - Merched bl.5-6 a Bechgyn bl.5-6 - 1 x Lap Bach
Lleoliad: Canolfan Hamdden Aberhonddu, Aberhonddu, LD3 9SR
Pellter: 1,560m
Cost: £5
Mi fydd cofrestru yn cau ar y 12 Chwefror am 12yp! Ni fydd modd cofrestru ar diwrnod y ras.