Y lleoliad delfrydol i’ch diwrnod corfforaethol

Pecynnau dyddiol a phreswyl ar gael

 

Wedi’i leoli ar lan Llyn Tegid ger Y Bala (ym Mharc Cenedlaethol Eryri), mae Glan-llyn yn leoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod staff neu corfforaethol nesaf chi.

Gall ein tîm profiadol o staff ddarparu’r diwrnod corfforaethol perffaith ar eich cyfer, wedi’i deilwra i’ch anghenion chi.

Datblygwch sgiliau eich gweithle yng Nglan-llyn...

  • Adeiladu tîm
  • Datrys problemau
  • Lles
  • Cymhelliant a chyd-weithio
  • Codi hyder

Pecynnau Hyblyg

Rydym yn cynnig opsiynau hanner diwrnod, diwrnod llawn, a preswyl, gan gynnwys:

  • Llety cyfforddus
  • Pecynnau arlwyo
  • Amserlen gweithgareddau wedi’u teilwra

Gweithgareddau

  • Gweithgareddau dŵr
  • Cwrs raffau uchel a sleidiau uchel
  • Wal ddringo
  • Ardal gwyllt grefft
  • Saethyddiaeth
  • Cwrs cyfeiriannu

Cyfleusterau 

  • Neuadd chwaraeon/cynhadledd a neuadd canolig
  • Darlithfa
  • Ystafelloedd cyfarfod gyda offer technegol
  • Neuadd fwyta
  • Ardal wersylla
  • BBQ
  • Pwll nofio

Llety ac Arlwyo

Mae nifer o ddewisiadau ar gael yn amrywio o fwffe sylfaenol i fwydlen foethus.

Pecynnau preswyl ar gael gyda'r gwersyll yn cysgu hyd at 240.

“O’r dechrau i’r diwedd, roedden ni yn teimlo ein bod mewn dwylo diogel a phrofiadol. Roedd modd teilwra popeth - gweithgareddau, bwyd ac amseru - i ni fel cwmni, i wneud y diwrnod yn werth chweil i bawb.”

- GRŴP CYNEFIN