Cyrsiau Amrywiol

O chwarae offerynnau i ddringo’r Wyddfa – mae Glan-llyn yn cynnig cyrsiau cyffrous ar gyfer pob oedran!

Cwrs Mynydda Glan-llyn Isa' 2026

Dyddiad: 02-04/10/2026

Pris: £159

Oedran: 14-18

Mwy o fanylion.

Yn ystod y penwythnos byddwn yn dringo rhai o gopaon uchaf  Cymru tra'n dysgu sgiliau mynydda.

Byddwch yn aros yn Nglan-llyn Isa', Llanuwchllyn. Yno mae cyfleusterau gwych tu mewn a thu allan, ystafelloedd cyfforddus, twll tan, a golygfeydd hyfryd i bob cyfeiriad. Mae Glan-llyn Isa ar draws y cae o Wersyll yr Urdd, Glan-llyn.

Mae'r cwrs yn cael ei gyd-hyrwyddo gan Glwb Mynydda Cymru.

Bydd yr hyfforddiant yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg.

Amserlen Enghreifftiol

Nos Wener Hydref 2il

6pm Cyrraedd Glan-llyn Isa, swper a chyflwyniad i: gwaith map a chwmpawd, offer, taith gerdded nos.

Dydd Sadwrn Hydref 3ydd

Diwrnod cyfan ar y mynyddoedd yn defnyddio sgiliau map a chwmpawd a gwaith  ar dir serth. (yr union leoliad yn ddibynnol ar y tywydd etc)

Nos: Pwll Nofio

Dydd Sul Hydref 4ydd

Diwrnod arall yn mynydda gan orffen tua 3:30pm

Am fwy o wybodaeth cysylltwch dros e-bost: llinosjw@urdd.org

 

Cwrs Preswyl Y Wobr 2026

Dyddiad: 16-20/02/2026 NEU 27-31/07/2026 NEU 26-30/10/2026

Pris: £325pp (cynnwys bwyd, llety, gweithgareddau ac unrhyw offer arbenigol)

Oedran: 16-25 oed

Nol