Mae ein Gwersyll Codio a Minecraft yn gyfle i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau codio, roboteg, dylunio, a heriau tîm. Byddant yn dysgu codio drwy weithgareddau ymarferol, adeiladu a dylunio syniadau gan ddefnyddio Minecraft, a chreu dyluniadau digidol eu hunain, i gyd wrth weithio ar y cyd ag eraill mewn amgylchedd cefnogol ac ysbrydoledig. Bydd hefyd cyfle i gael blas ar rai o atyniadau’r Brifddinas. 

Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau yn rhai o brif atyniadau Caerdydd, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite. 

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6.

Dyddiad

20 - 24 Gorffennaf 2026

Pa mor hir mae'n para?

5 diwrnod, 4 noson

Pris

£250 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Blaendal o £50 - Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Gellir trefnu cludiant trên am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Llety

Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!

Cyfleusterau

Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.

Bwyd

Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.