Cynorthwyydd Cegin a Llety

Teitl y swydd:  Cynorthwyydd Cegin a Llety

Math o gytundeb:  Swydd barhaol a thymor ysgol yn unig ar gael

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos) neu ran amser

Graddfa:  Gweithredol 1: £24,488 y flwyddyn (pro-rata)

Lleoliad:  Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn

Dyddiad ac amser cau:  31/07/2026, 17:00

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y Swydd

Ymunwch â’n tîm fel Cynorthwyydd Cegin yng Ngwersyll Yr Urdd, Glan-llyn, gan helpu i baratoi a gweini prydau i westeion a staff. Byddwch yn cefnogi tasgau dydd i ddydd y gegin ac yn sicrhau safonau uchel o lanweithdra a hylendid. Mae’r rôl hon yn addas i rywun dibynadwy, trefnus, ac yn gyfforddus yn gweithio mewn amgylchedd tîm prysur. Rôl ymarferol mewn lleoliad unigryw gyda chyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Huw Symonds (Rheolwr Gwersyll) ar 01678541000 neu huwsymonds@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org