Cynorthwyydd Gofal Cwsmer

Teitl y Swydd:  Cynorthwyydd Gofal Cwsmer 

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Rhan amser (21 awr yr wythnos), tymor ysgol yn unig (cyfleon i weithio yn ychwanegol dros y gwyliau) 

Graddfa:  Gweithredol 2 (£24,879 - £26,016 pro rata) 

Lleoliad:  Gwersyll Llangrannog

Dyddiad Cau:  20 Medi am hanner nôs  

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma 

Ffurflen GaisCliciwch yma

 

Y Swydd 

Mae’r Cynorthwyydd Gofal Cwsmer yn chwarae rôl ganolog yn sicrhau rhediad

effeithiol, trefnus a llwyddiannus y Gwersyll. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar

ddarparu gwasanaeth gweinyddol o’r radd flaenaf a phrofiad cwsmer rhagorol i

ymwelwyr, partneriaid ac aelodau staff.

 

Bydd y swydd yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ac yn gyfrifol am

gefnogi systemau gweinyddol, ariannol ac weithredol y Gwersyll o ddydd i ddydd.

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Lowri Jones ar lowri@urdd.org

 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org