Pennaeth Gwersyll Caerdydd

Teitl y Swydd:  Pennaeth Gwersyll Caerdydd 

Math o gytundeb:  Parhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:  RH3: £53,057 - £60,615 y flwyddyn 

Lleoliad:  Gwersyll Caerdydd 

Dyddiad Cau:  21/06/2026 am hanner nos

Dyddiad Cyfweld: Yn cael eu cynnal ar 02/07/2026 

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Bydd Pennaeth y Gwersyll yn gyfrifol am sicrhau twf masnachol cynaliadwy, darparu profiad cwsmer o’r radd flaenaf, a chreu amgylchedd diogel, bywiog a chynhwysol i filoedd o blant, pobl ifanc a grwpiau cymunedol bob blwyddyn.

Bydd gofyn i arwain, rheoli a datblygu Gwersyll yr Urdd Caerdydd i sicrhau darpariaeth o’r safon uchaf, profiad rhagorol i gwsmeriaid gyda’r Gymraeg yn greiddiol i bopeth, a pherfformiad ariannol cynaliadwy.

Bydd y Pennaeth yn gyfrifol am bob agwedd o weithrediad, strategaeth a diogelwch y gwersyll, gan sicrhau ei dwf a’i effaith hirdymor.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Adnoddau Dynol ar swyddi@urdd.org

Anfonwch CV cyfredol ac llythyr eglurhaol wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org