Rheolwr Gweithrediadau

Teitl y Swydd:  Rheolwr Gweithrediadau Eisteddfod yr Urdd

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 7 : £42,833 - £47,223 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o brif swyddfeydd yr Urdd (gan gynnwys Caerdydd, Glan-llyn, Bangor a Caerfyrddin)

Dyddiad Cau:  15fed o Orffennaf am hanner dydd

Dyddiad Cyfweld:  23ain o Orffennaf

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma

 

Y Swydd

Mae Adran y Celfyddydau’r Urdd yn cynnal Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â rhedeg Cwmni Theatr yr Urdd, a chynnal nifer o brosiectau cymryd rhan i ieuenctid Cymru dros y flwyddyn. Ein prif nod yw cynnig Llwyfan i Bawb, drwy ddarparu profiadau a chyfleoedd celfyddydol o ansawdd uchel drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc o bob cefndir yng Nghymru a thu hwnt.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus gyda phrofiad rheoli i arwain elfennau gweithredol a thechnegol yr Eisteddfod a phrosiectau allweddol eraill, gan sicrhau priofiad diogel, hygyrch ac ysbrydoledig i bawb. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau) ar lliomaddocks@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd a’r Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org