Swyddog Celfyddydol Cymunedol Brycheiniog, Maesyfed a Chymoedd Morgannwg

Teitl y swydd:  Swyddog Celfyddydol Cymunedol Brycheiniog, Maesyfed a Chymoedd Morgannwg

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 4: £29,409 - £31,430 y flwyddyn

Lleoliad:  Merthyr

Dyddiad cau:  31/07/2026

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y Swydd

Prif bwrpas y swydd yw cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc y rhanbarthau mewn cyfleoedd Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau drwy’r Urdd. Gan weithio ar sail tystiolaeth, bydd y Swyddog yn gyfrifol am gynyddu nifer yr ysgolion a cholegau addysg pellach sy’n cymryd rhan yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth, yn ogystal â denu aelodau i gymryd rhan yng ngweithgareddau celfyddydol ehangach y rhanbarthau, megis Theatr Ieuenctid, Jambori, Gigs Ieuenctid ac ati.

Am fwy o fanylion cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol ar adnoddaudynol@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org