Swyddog Ieuenctid Merthyr

Teitl y Swydd:  Swyddog Ieuenctid Merthyr 

Math o gytundeb:  Tymor penodol (hyd at 31 Mawrth 2027 yn y lle cyntaf) 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

 Graddfa:  Gweithredol 3 : £26,204 - £28,566 y flwyddyn 

Lleoliad:  Merthyr 

Dyddiad Cau:  10 Medi 

Swydd DdisgrifiadCliciwch yma 

Ffurflen GaisCliciwch yma

 

Y Swydd 

Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr, gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yn seiliedig ac yn unol a thargedau yr Awdurdod Lleol a’r Urdd. 

Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn:

-        Gyfoes ac yn adlewyrchu gofynion pobl ifanc trwy wrando ar eu llais.

-        Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc Cymru o bob cefndir cymdeithasol.

-        Ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud a’r Gymraeg, gan ddatblygu hyder pob person ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn cyd-asio gyda Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion. 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Elen Evans (Rheolwr Cymunedol y De) ar elenevans@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org