Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Eisteddfod yr Urdd

Teitl y swydd:  Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Eisteddfod yr Urdd

Math o gytundeb:  Swydd barhaol 

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 5: £31,745 - £35,365 y flwyddyn

Lleoliad:  Un o brif swyddfeydd yr Urdd (gan gynnwys Caerdydd, Glan-llyn, Bangor a Caerfyrddin)

Dyddiad ac amser cau:  17/07/2026 am 10:00yb

Dyddiad cyfweld:  22/07/2026

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y swydd

Rydym yn chwilio am Swyddog Marchnata a Chyfathrebu trefnus, creadigol a strategol, gyda phrofiad o farchnata digidol a chyfathrebu cyhoeddus. Bydd y Swyddog yn gyfrifol am arwain ar ddatblygu a hyrwyddo brand Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru a phrosiectau eraill yr adran, drwy greu cynnwys apelgar, perthnasol, cyfoes ac effeithiol sy’n tyfu ac yn amrywio cynulleidfaoedd yr Urdd.

Bydd gan yr unigolyn gyfrifoldeb dros reoli a datblygu platfformau digidol, yn ogystal ag arwain ar ymgyrchoedd marchnata a chyfathrebu i hyrwyddo’r holl waith celfyddydol drwy gydol y flwyddyn.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Llio Maddocks (Cyfarwyddwr yr Eisteddfod a'r Celfyddydau) ar lliomaddocks@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org