Tiwtor / Asesydd Gofal Plant NEU Diwtor / Asesydd Gofal Plant (o dan hyfforddiant)

Teitl y swydd:  Tiwtor / Asesydd Gofal Plant neu Diwtor / Asesydd Gofal Plant (o dan hyfforddiant) Yr Adran Brentisiaethau

Math o gytundeb:  Swydd barhaol

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos) neu ran amser (21 neu 28 awr yr wythnos)

Graddfa: Gweithredol 4: £29,409 - £31,430 y flwyddyn neu Gweithredol 3: £26,204 - £28,566 y flwyddyn o dan hyfforddiant (pro rata)

Lleoliad:  Un o brif swyddfeydd yr Urdd

Dyddiad cau:  20/07/2026

Dyddiad cyfweld:  23/07/2026 a 24/07/2026

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y swydd

Yn dilyn llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd a’r Rhaglen Prentisiaethau Gofal Plant yn mynd o nerth i nerth ers iddo gael ei lansio yn 2022, angen am asesydd eiddgar i ymuno â’r tîm.

Bydd y swydd hon yn un allweddol er mwyn darparu dysgu, addysgu ac asesu o’r safon uchaf i brentisiaid Gofal Plant.

Byddech yn gweithio yn agos gyda grŵp o brentisiaid yn ddyddiol a’i mentora, hyfforddi a’i chefnogi drwy ei rhaglenni. Byddech hefyd yn meithrin perthnasau gyda’i chyflogwyr gan sicrhau bod yr hyfforddiant yn cwrdd ag anghenion y busnes.

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis (Cyfarwyddwr Prentisiaethau a Hyfforddiant) ar 07930 964625 neu catrindavis@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org