Ymaelodi dy hun, dy blant neu deulu gyda'r Urdd
Cyn ymaelodi dy hun neu dy blant gyda’r Urdd, bydd gofyn i ti greu cyfri o fewn ein system ar-lein, Y Porth.
Creu cyfri o fewn Y Porth
Y cam cyntaf yw creu cyfri a phroffil o fewn Y Porth. Ar ôl creu cyfri, bydd modd i ti fwrw ati gydag aelodaeth yr Urdd, a gellir ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio neu newid manylion.
Barod amdani? Clicia yma i greu cyfri!Ymaelodi gyda’r Urdd
Unwaith fyddi di wedi creu dy gyfri o fewn Y Porth, gelli ymaelodi dy hun gyda’r Urdd (os yn 16+ oed), neu ychwanegu plentyn / plant dy deulu i’w ymaelodi gyda’r Urdd.
Ar ôl ychwanegu a thalu byddi di / dy blant yn aelodau o’r Urdd ar gyfer eleni, a cei e-bost i gadarnhau hynny. Gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio/newid manylion.
Yn newydd i’r Porth eleni, gellir cofrestru ar gyfer clybiau chwaraeon wythnosol, yn ogystal a chofrestru ar gyfer yr eisteddfod. Cadwch lygaid ar y Porth dros y misoedd nesaf i weld pa ddatblygiadau eraill fydd ar y gweill!
Clicia yma i greu cyfri ac i ymaelodi gyda’r Urdd!