Beth yw pris aelodaeth yr Urdd eleni?

Aelodaeth unigol: £10*

Aelodaeth teulu (3 neu fwy o blant): £25

*£1 yn unig i’r rheiny sy’n derbyn cefnogaeth drwy gynllun prydau ysgol am ddim

Beth yw'r Porth?

Cyn ymaelodi dy hun neu dy blant gyda’r Urdd, bydd gofyn i ti greu cyfri o fewn ein system ar-lein newydd sbon, Y Porth. Mi fydd y Porth yn galluogi ysgolion, adrannau, aelwydydd a rhieni fel ei gilydd i greu cyfri, ymaelodi gyda’r Urdd a gweld eu manylion yn rhwydd.

Mi fydd y system hon yn datblygu yn ystod y flwyddyn i gynnwys nid yn unig aelodaeth, ond hefyd ffordd o gofrestru i gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau a digwyddiadau, o chwaraeon i’r Eisteddfod a’r gwersylloedd – pob dim sydd yn ymwneud â’r Urdd, i gyd mewn un lle!

Barod amdani? Clicia yma i greu cyfri!

Pam nad oes opsiwn i dalu drwy Paypal ar Y Porth?

Fel elusen, rydym angen gwarchod ein hincwm gymaint â phosib, ac wrth adolygu ein systemau, daethpwyd i’r canlyniad y byddai cyflenwr taliadau gwahanol yn arbed canran o bob taliad i ni.

Nid oedd Paypal yn gweithio i bawb, ychwaith, ac mae ein cyflenwr newydd yn cynnig ffordd symlach i bawb dalu am ein gwasanaethau. Cyn hir, byddwn yn ychwanegu opsiynau talu gan ddefnyddio ApplePay a GooglePay, hefyd.

Dw i'n Arweinydd Cangen - sut ydw i'n creu cyfrif fewn Y Porth?

Arweinydd cangen heb dderbyn côd arbennig ar gyfer Y Porth?

Bydd Arweinwyr Cangen yn derbyn e-bost yn fuan ym mis Medi 2021 gyda chôd arbennig er mwyn gallu cychwyn gweinyddu drwy’r Porth. Ni fydd modd gweinyddu’r gangen heb ddilyn y drefn yma felly os nad ydych wedi derbyn yr e-bost yma, cysylltwch â ni: aelodaeth@urdd.org

Help! Fe wnaeth yr ysgol ymaelodi fy mhlant ond dw i angen gwybod eu rhifau aelodaeth

Cysyllta gyda dy ysgol gangen a gofyn iddynt rannu’r rhifau aelodaeth gyda thi. Gelli hefyd greu cyfri o fewn ein system ar-lein newydd, Y Porth, a gwneud cais am fynediad i rifau aelodaeth dy blant yno (bydd yr ysgol yn gorfod rhoi caniatâd i ryddhau’r data yma).

Beth wyt ti'n ei gael o fod yn aelod o'r Urdd?

Fel aelod o’r Urdd byddi’n rhan o fudiad ieuenctid mwyaf Cymru. Am y pris, bydd aelodau yn derbyn bathodyn a cherdyn aelodaeth a mynediad i holl weithgareddau’r Urdd. Mae’r ddarpariaeth yn amrywio o ardal i ardal ond mae clybiau, gweithgareddau, teithiau arbennig a chylchgronau am ddim i gyd yn rhan o gynnig aelodaeth yr Urdd:

  • Gwersylloedd Llangrannog, Glan-llyn, Glan-llyn Isa’, Caerdydd... Cyfle am antur gyda ffrindiau yn ein gwersylloedd.
  • Ieuenctid a Chymuned: Teithiau tramor, celfyddydau, cymdeithasu, gwneud ffrindiau newydd, adrannau ac aelwydydd a chyfleoedd gwirfoddoli.
  • Eisteddfod yr Urdd: Cystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau sy’n cynnwys canu a dawnsio, trin gwallt a harddwch, creu aps a chomedi stand yp. 
  • Chwaraeon: Rygbi, nofio, pêl-droed, pêl-fasged, gymnasteg... Mae pob math o glybiau, gweithgareddau a chystadlaethau ar gael drwy’r Gymraeg. 
  • Cylchgronau Cymraeg apelgar, hwyliog ac addysgiadol bellach ar gael yn ddigidol ac am ddim!

Oes angen bod yn aelod cyn cael cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Urdd?

Oes, mae angen i ti fod yn aelod o’r Urdd er mwyn cael cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Ond mae modd gwneud hynny’n hawdd drwy ein system ar-lein newydd, Y Porth.

Sut ydw i’n dod o hyd i rif aelodaeth?

Mae modd dod o hyd i rif aelodaeth drwy fewngofnodi i dy gyfrif yn Y Porth. Ar ôl ymaelodi gyda'r Urdd, byddi hefyd yn derbyn e-bost yn cadarnhau’r rhif aelodaeth.

Pryd bydda i’n derbyn fy mathodyn aelodaeth?

Byddwn yn postio dy fathodyn aelodaeth atat ti mor fuan â phosib, ond gall gymryd hyd at 4 wythnos ar adegau prysur o’r flwyddyn.

Oes modd i blant o dan 8 oed ymaelodi gyda’r Urdd?

Oes – mae’r Urdd yn croesawu plant o bob oed i fod yn aelod. Fodd bynnag, mae'r rhan helaeth o’n gweithgareddau yn addas i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 25 oed.

Pryd bydd Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024?

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024 yn ystod wythnos hanner tymor y Sulgwyn, sef 27 Mai – 1 Mehefin 2024. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am Eisteddfod yr Urdd.

 

Os wyt yn cael problemau ymaelodi gyda'r Urdd neu angen cymorth technegol gyda’r Porth, plîs cysyllta â ni drwy lenwi'r ffurflen isod: