Hafan > Ymuno > Ymaelodi dy hun, dy blant neu deulu gyda’r Urdd
Ymaelodi dy hun, dy blant neu deulu gyda’r Urdd
Ymaelodi dy hun, dy blant neu deulu gyda'r Urdd
Cyn ymaelodi dy hun neu dy blant gyda’r Urdd, bydd gofyn i ti greu cyfri o fewn ein system newydd, Y Porth.
Creu cyfri o fewn Y Porth
Y cam cyntaf yw creu cyfri a phroffil o fewn Y Porth. Ar ôl creu cyfri, bydd modd i ti fwrw ati gydag aelodaeth yr Urdd, a gellir ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio neu newid manylion.
Unwaith fyddi di wedi creu dy gyfri o fewn Y Porth, gelli ymaelodi dy hun gyda’r Urdd (os yn 16+ oed), neu ychwanegu plentyn / plant dy deulu i’w ymaelodi gyda’r Urdd.
Ar ôl ychwanegu a thalu byddi di / dy blant yn aelodau o’r Urdd ar gyfer eleni, a cei e-bost i gadarnhau hynny. Gelli ddychwelyd i’r Porth ar unrhyw adeg i wirio manylion.
Dros y misoedd nesaf bydd holl weithgareddau a chystadlaethau’r Urdd yn symud i’r Porth, hefyd.