Ble dwi'n dod o hyd i rif aelodaeth fy mhlentyn?

Mae angen mewngofnodi i’r Porth ac mae’r rhif ar y dudalen Ymuno/Adnewyddu a Thalu.

Oes posib cael mwy nag un cyfeiriad e-bost ynghlwm a fy nghyfrif?

Nagoes ar hyn o bryd.

Yr ysgol wnaeth ymaelodi fy mhlentyn, nid fi. Sut fedrai ddod o hyd i'r rhif aelodaeth?

Bydd rhaid i chi ofyn wrth yr ysgol am y rhif.  Mae modd i chi drosglwyddo aelodaeth eich plentyn i chi fel y gallwch chi weld y manylion eich hun ac archebu lle ar weithgareddau'r Urdd. 
I wneud hyn ewch i 'Gofyn am berchnogaeth aelodaeth fy mhlentyn' o dan yr adran 'Rhiant/gwarcheidwad' ar Y Porth.

Sut ydw i'n mynd ati i greu cangen newydd?         

Anfon cais at aelodaeth@urdd.org

Dwi ddim yn cofio manylion mewngofnodi yr ysgol ers cyn Covid. Sut dwi'n cael mynediad? 

Bydd angen creu cyfri newydd. Cysylltwch â aelodaeth@urdd.org i wirio bod eich manylion yn gyfredol.

Sut ydw i yn newid manylion cerdyn talu ar gyfer taliad cylchol (tanysgrifiad) e.e. gweithgareddau a Chwaraeon?

Nid yw’n nhaliad ar gyfer taith wedi mynd o fy nghyfrif banc – be dwi angen ei wneud?

Mi fydd yn trio 3 gwaith eto. Gwiriwch bod eich manylion banc yn gywir ar stripe https://billing.stripe.com/p/login/6oE035ejmdTvcTe000

Sut dwi’n gwybod pryd mae’r taliad nesaf yn mynd o fy nghyfrif banc?      

Bydd taliad yn cael ei gymryd mis yn union ar ôl i chi dalu eich blaendal. Mae manylion y taliadau a'r symiau ar eich e-bost cadarnhau gweithgaredd.

Sut dwi'n archebu gweithgaredd?

Ewch i'r Porth a chlicio ar y dolenni yn y ddewislen i archebu unai gweithgaredd chwaraeon neu ieuenctid a chymunedol.