Cefndir a phwrpas Bwrdd Adnoddau Dynol yr Urdd

Mae gan y Bwrdd Adnoddau Dynol rôl ganolog i’w chwarae yn natblygiad a dyfodol yr Urdd.
Er mwyn sicrhau fod yr Urdd yn cyflawni ei strategaeth, mae’n hanfodol fod gennym ddiwylliant cadarnhaol sy’n galluogi, grymuso a datblygu'r gweithlu. Rydym am sicrhau ein bod yn denu, datblygu a chadw gweithlu talentog ac amrywiol sy’n perfformio ar lefel uchel ar gyfer aelodau'r Urdd gyda strwythur pwrpasol i gefnogi'r gwaith.

Nia Bennett

Nia Bennett

Cadeirydd Bwrdd Adnoddau Dynol

Yn aelod siartredig o’r CIPD a gydag achrediad mewn Strategaeth Busnes ac Arweinyddiaeth, mae Nia yn Gyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorydd Cwmni Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol effectusHR. Bu Nia yn aelod o Banel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2011 cyn dod yn Gadeirydd yn Nhachwedd 2018. Bu i’r Ymddiriedolwyr ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Gwaith Gweithredol yr Urdd ym Mawrth 2020, a chafodd ei hethol fel Ymddiriedolwr ym Mawrth 2021.

Rôl y Bwrdd Adnoddau Dynol

  • Cefnogi'r Prif Weithredwr a Phennaeth yr adran Adnoddau Dynol i lunio cynllun strategol i ddatblygu’r gweithlu gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
  • Cefnogi denu, cadw a datblygu gweithlu cynhwysol
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd cyflogaeth penodol
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd

Rydym am apwyntio aelodau ychwanegol i'r Bwrdd Adnoddau Dynol

Mae hyd at 2 sedd gwag ac rydym yn chwilio am brofiad yn y maes adnoddau dynol a chyfraith cyflogaeth. 

Manylion y Rôl

  • Mae tymor pob aelod o’r bwrdd yn para tair blynedd.
  • Cynhelir 2 cyfarfod y flwyddyn sydd yn cynnwys cyfarfodydd ac ar-lein ac un cyfarfod mewn person y flwyddyn.

Beth rydym yn ei ddisgwyl:

  • Ymroddiad i weledigaeth a gwerthoedd strategaeth gorfforaethol yr Urdd.
  • Cydymffurfiaeth â egwyddorion llywodraethu da, gan gynnwys uniondeb, tryloywder a chyfrifoldeb.
  • Parodrwydd i fynegi barn, cefnogi ac herio’n adeiladol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau strategol.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn ymrwymedig i greu byrddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais ar lein gan nodi:

  • Eich profiad neu ddiddordeb perthnasol
  • Pam rydych chi eisiau ymuno â Bwrdd Strategol
  • Sut rydych chi’n uniaethu â gweledigaeth a gwerthoedd yr Urdd

Dyddiad cau: 13 Tachwedd 2025