Polisiau’r Urdd

Mae gan yr Urdd nifer o bolisiau er mwyn cynorthwyo staff a gwirfoddolwyr drwy eu gwaith. 

Polisi Diogelu Plant a Phobl Ifanc

Mae Urdd Gobaith Cymru yn ymrwymo i amddiffyn plant rhag niwed.

Mae staff a gwirfoddolwyr yn y sefydliad yn derbyn ac yn cydnabod eu cyfrifoldebau i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n gallu peri niwed i blant Mae’n rhaid i ni gyd ofalu nad yw ein hymddygiad yn achosi pryder, nac mewn perygl o gael ei gamddehongli.

Cliciwch ar y ddolen hon i lawrlwytho Canllawiau Diogelu Plant Urdd Gobaith Cymru

I adrodd ar unrhyw faterion neu bryderon yn ymwneud â diogelu plant a phobl ifanc, cysylltwch gyda’r Swyddog Diogleu perthnasol o'r rhestr isod, neu ebostiwch diogelu@urdd.org

 

Côd ymddygiad wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc

Polisi gwirio staff a gwirfoddolwyr

Mae’n ofynnol i’r Urdd sicrhau bod trefniadau mewn lle ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc.  Mae’n ofynnol sicrhau ein bod yn cyflogi staff sy’n addas i weithio gyda nhw, ac yn yr un modd bod ein rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws Cymru hefyd yn unigolion addas i ymgymryd â’u swyddogaethau.

Fel rhan o broses recriwtio - boed hynny fel staff cyflogedig neu fel gwirfoddolwr - byddwn yn asesu natur y cyfrifoldebau - ac yn trefnu gwiriad drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd GDG ble’n briodol.

Cedwir bas data canolog gan yr Urdd o enw/cyfeirnod/lefel gwiriad/dyddiad/swyddogaeth mewn man diogel (gweler Polisi Trin Gwybodaeth Tystysgrif GDG).

Bydd yr Urdd yn talu costau gwiriadau staff.  Mae gwiriadau gwirfoddolwyr yn ddigost tra mae’r unigolyn yn ymgymryd â’r swyddogaeth yn ddi-dâl.

Gwirio Staff – Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Urdd Gobaith Cymru yn sicrhau bod staff llawn, rhan amser a staff dan hyfforddiant, ac sydd mewn swyddi perthnasol, yn cael eu gwirio drwy drefn y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ar apwyntiad, bydd trefniadau yn cael eu rhoi mewn lle i wirio staff ar lefel sy’n berthnasol i gyfrifoldebau’r swydd.  Y nod yw bod y broses gwirio wedi ei gwblhau cyn i’r unigolyn gychwyn yn y swydd.

Polisi'r Urdd yw ail wirio staff perthnasol bob 3 blynedd, oni bai bod rheswm penodol i’w ail gyflwyno yn gynt e.e. newidiadau mewn cyfrifoldebau swydd sy’n gwahodd lefel uwch o wiriad.  Mae gwiriadau gwirfoddolwyr yn ddigost tra mae’r unigolyn yn ymgymryd â’r swyddogaeth yn ddi-dâl.

Gwirfoddolwyr  - Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae nifer o wirfoddolwyr yr Urdd yn cyflawni rôl ble nad oes angen gwiriad drwy’r drefn Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Fodd bynnag mae canran sylweddol yn cyflawni rôl sy’n dod a nhw i gyswllt rheolaidd gyda phlant a phobl ifanc, sy’n golygu bod angen i’r Urdd sicrhau eu bod yn addas i wneud hynny. Bydd lefel y gwiriad yn ddibynnol ar natur eu rôl, ac os ydynt a gofal plant a phobl ifanc heb oruchwyliaeth.

Byddwn yn trefnu i wirio gwirfoddolwyr mewn swyddogaethau perthnasol pan fyddent yn cychwyn ar eu gwaith gwirfoddol i’r Urdd.

Polisi’r Urdd yw ail wirio gwirfoddolwyr bob 5 mlynedd, oni bai bod rheswm penodol i’w ail gyflwyno yn gynt e.e. newidiadau mewn cyfrifoldebau swyddogaeth sy’n gwahodd lefel uwch o wiriad.

Bydd yr Urdd yn cydweithio yn agos gydag arweinyddion canghennau/adrannau/aelwydydd i sicrhau bod bas data gwirfoddolwyr yn gyfredol a gyda’r nod o sicrhau bod yr holl wirfoddolwyr perthnasol wedi eu gwirio drwy’r GDG.

Polisi Cwynion

Nod yr Urdd yw darparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc o’r safon uchaf.

Mae darpariaeth yr Urdd yn seiliedig ar berthynas wirfoddol rhwng pobl ifanc a gwirfoddolwyr a staff yr Urdd. 

Mae’r Urdd yn parchu barn pobl ifanc gan ystyried eu gofynion, eu dymuniadau, eu diddordebau a’u dyheadau.

Mae Urdd Gobaith Cymru yn croesawu barn, aelodau, rheini/gwarchodwyr a’r cyhoedd ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir, fel y gellir ei wella os oes angen.

Bydd yr Urdd yn ceisio datrys unrhyw gŵyn mewn ffordd anffurfiol ac mewn ysbryd cydweithredol.  Os wedi hynny mae dymuniad i gyflwyno cwyn yn ysgrifenedig, dylid nodi yn glir ‘eich bod yn dymuno gwneud cwyn o dan y drefn cwynion’.

O ganlyniad i ymchwiliad cwyn, bydd yr Urdd yn ystyried os oes angen diweddaru polisïau a/neu weithdrefnau.

Noder bod trefn cwynion ar wahân ar gyfer materion cystadleuol Eisteddfod yr Urdd a dylid cyfeirio at reolau’r Eisteddfod sydd yn y rhestr testunau cyfredol.

Hysbysir y drefn cwynion yn y mannau canlynol:- Llawlyfr arweinyddion, Gwefan Urdd Gobaith Cymru.

Os yw aelod, rhiant/gofalwr(wyr)neu aelod o’r cyhoedd yn anfodlon gydag unrhyw agwedd o ddarpariaeth Urdd Gobaith Cymru, bydd angen dilyn y drefn ganlynol.

Hysbysiad preifatrwydd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Am gopi cyflawn o'n polisi cliciwch isod.

Hysbysiad preifatrwydd

Polisi Cwcis