Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru ar ran yr Urdd 2024
Mae’r Urdd yn sefydliad Partner i Senedd Ieuenctid Cymru. Felly rydym yn chwilio am un person ifanc i fod ar y Senedd Ieuenctid yn enw’r Urdd. Cyn i ti gyflwyno dy gais mae rhaid ateb y meini prawf canlynol:
- Bydd angen i ti fyw yng Nghymru, neu gael dy addysg yng Nghymru.
- Bydd angen i ti fod rhwng 11 a 17 oed ar 25 Tachwedd 2024.
Amserlen
- Enwebiadau yn agor: 30 Medi 2024
- Enwebiadau yn cau: 19 Hydref 2024
- Cyfnod pleidleisio: 21 Hydref - 5 Tachwedd 2024
- Cyhoeddi aelod Senedd Ieuenctid Cymru ar ran yr Urdd: 8 Tachwedd 2024