Mae rôl ein gwirfoddolwyr yn hanfodol yn strwythur llywodraethu’r Urdd, ac rydym am barhau i dderbyn eu profiad, sgiliau, ac arbenigedd i’n harwain i mewn i’r ganrif nesaf.

Caiff aelodau'r Bwrdd eu penodi am gyfnod o dair blynedd. Mae disgwyl i aelodau'r Bwrdd:

  • paratoi ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd
  • neilltuo amser i ymgyfarwyddo â gwaith yr Urdd a chynlluniau penodol maes gweithredu'r Bwrdd
  • mynychu o leiaf 2 cyfarfod y flwyddyn a Chyfarfod Blynyddol Urdd Gobaith Cymru. (Bydd y mwyafrif o’r cyfarfodydd ar lein gyda chyfarfodydd ‘mewn person‘ yn ôl y galw.)
  • cymryd rhan mewn pwyllgorau / grwpiau Gorchwyl a Gorffen os yn berthnasol

Rôl a chyfrifoldebau aelod o Fwrdd

  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr(wyr) i lunio a chymeradwyo gweledigaeth, amcanion a deilliannau strategol hir dymor yr adran(nau)
  • Adolygu, craffu a monitro perfformiad yr adran(nau),
  • Hybu agenda ar gyfer gwelliant parhaus o safbwynt darparu gwasanaethau'r adran
  • Craffu i annog yr adran(nau) i ddarparu cynnig cynhwysol i blant a phobl ifanc sy’n wynebu rhwystrau at fynediad hawdd i ddarpariaeth yr Urdd
  • Rhannu arbenigedd a chyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiadau’r hir dymor yr adran
  • Gweithio gyda’r cyfarwyddwr i sicrhau cefnogaeth a gofal dros wirfoddolwyr yr adran(nau)
  • Cefnogi prosesau recriwtio’r yn ôl y galw.

Cliciwch ar y bwrdd perthnasol am wybodaeth pellach:

Bwrdd Adnoddau Dynol

Dysgu mwy

Bwrdd Busnes

Dysgu mwy
 

Bwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau

Dysgu mwy
 

Bwrdd Celfyddydau

Dysgu mwy
 

Bwrdd Gwersylloedd

Dysgu mwy

Aelodau Bwrdd 18-25 oed

Dysgu mwy

Bwrdd Rhyngwladol

Dysgu mwy