Cefndir a phwrpas Bwrdd Busnes yr Urdd

Mae rheolaeth ariannol gref yn hanfodol i elusennau ac mae rôl y Bwrdd Busnes yn goruchwylio’r materion ariannol yn chwarae rhan allweddol yn strwythur llywodraethiant yr Urdd. Mae diogelu sefyllfa ariannol yr elusen, goruchwylio’r defnydd o adnoddau ariannol a phenderfyniadau buddsoddi’r elusen yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gan yr elusen yr adnoddau i gyflawni ei hamcanion wrth barhau i ddiogelu fod gweithgareddau’r elusen yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Cyfrifoldebau'r Bwrdd Busnes

  • Adolygu cyfrifon rheoli chwarterol a chyllidebau adrannol blynyddol
  • Adolygu y cyfrifon statudol blynyddol i rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor Archwilio a Risg bod y wybodaeth ariannol yn gyson gyda’r cyfrifon rheoli
  • Goruchwylio portffolio eiddo'r Urdd
  • Cymeradwyo a monitro prosiectau cyfalaf
  • Monitro perfformiad buddsoddi ac argymell newidiadau
  • Cymeradwyo ceisiadau gwariant busnes o gronfeydd wrth gefn
  • Adolygu a goruchwylio polisïau ariannol yr Urdd
Gwennan Oakes

Gwennan Oakes

Cadeirydd y Bwrdd Busnes

Mae gan Gwennan dros ugain mlynedd o brofiad mewn cyllid ar draws sectorau amrywiol, gan gynnwys gwaith helaeth fel arweinydd mewn rheolaeth ariannol ac fel pennaeth risg. Trwy ei gyrfa mae wedi cefnogi sefydliadau i gryfhau eu llywodraethu, eu prosesau risg, a’u gallu i wneud penderfyniadau ariannol cadarn. Fel Cadeirydd y Bwrdd Busnes, mae Gwennan yn ymrwymedig i gefnogi strategaeth ariannol a chynaliadwyedd hirdymor yr Urdd, gan helpu i sicrhau bod pobl ifanc ledled Cymru yn parhau i elwa ar y cyfleoedd y mae’r sefydliad yn eu cynnig.

Rydym am apwyntio aelodau 18-25 oed i'r Bwrdd Busnes

Dyma gyfle i bobl ifanc 18–25 oed roi gyfrannu a helpu i siapio penderfyniadau yr Urdd trwy eistedd ar Fwrdd Busnes. 

Mae pobl ifanc 18–25 oed yn chwarae rôl ganolog yn ein strwythur llywodraethu drwy eistedd ar ein byrddau strategol, gan ddod â safbwyntiau ffres, profiadau cyfoes a syniadau creadigol sy’n helpu i siapio cyfeiriad a datblygiad y sefydliad ar gyfer y dyfodol. 

Ar gyfer y Bwrdd Busnes, rydym yn chwilio am bobl brwdfrydig sydd ag un neu fwy o’r sgiliau neu brofiadau yma:

  • Yn gweithio mewn maes, neu yn astudio pwnc a fydd yn arwain at gymhwyster cyfrifeg
  • Dealltwriaeth sylfaenol o bethau fel refeniw, costau, elw a dychweliadau buddsoddi
  • Y gallu i ddehongli gwybodaeth, gweld tueddiadau, ac ofyn cwestiynau craff
  • Hyder i gyfrannu mewn cyfarfodydd a rhannu’ch syniadau

Fel aelod o’r Bwrdd Busnes, cewch gyfle i adeiladu eich sgiliau, cydweithio â gweithwyr proffesiynol, a chael profiad gwych o drafod materion ariannol – mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ymarferol.

Sut i wneud cais

Cwblhewch y ffurflen gais ar lein gan nodi:

  • Eich profiad neu ddiddordeb perthnasol
  • Pam rydych chi eisiau ymuno â Bwrdd Strategol
  • Sut rydych chi’n uniaethu â gweledigaeth a gwerthoedd yr Urdd

Dyddiad cau: 2 Mawrth 2026