Cefndir y Bwrdd Gwersylloedd
Rydym wedi sefydlu’r Bwrdd yma o’r newydd i ddarparu arbenigedd a chyngor ar y cyd er mwyn llywio strategaeth Gwersylloedd yr Urdd. Mae holl ganolfannau preswyl yr Urdd yn cynnig cyfleoedd i blant, ieuenctid ac oedolion i breswylio, addysgu a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg a Chymreig, proffesiynol, diogel a chroesawgar. Maent yn hanfodol i ddatblygu'r cenedlaethau nesaf o ddinasyddion Cymru a’u hymrwymiad i’n hiaith a’n diwylliant. Mae’r Gwersylloedd yn ffynhonnell incwm hanfodol i fodel busnes yr Urdd ac yn cyfrannu £6.9miliwn i economi Cymru.

Jim O’Rourke
Cadeirydd y Bwrdd Gwersylloedd
Rwyf yn Gyfarwyddwr Cwmni fy hun, yn hunain cyflogedig fel Ymgynghorydd Busnes Cyn hynny roeddwn yn Gyn Pennaeth Gwersyll Llangrannog a Phrif Weithredwr Yr Urdd. Yn 1995, gadewais fy nghyflogaeth gyda’r Urdd i weithio ar brosiect y Tŷ Opera newydd ym Mae Caerdydd. Yn y cyfnod hwn, llwyddais i gynnwys Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn natblygiad Canolfan Mileniwm Cymru. Bellach rwyf yn arbenigwr ar ddatblygu canolfannau preswyl gan gynnwys gwestai, canolfannau i oedolion a phlant ac atyniadau e.e. Nant Gwrtheyrn. Ar hyn y bryd rwyf yn rheoli prosiect i adnewyddu a datblygu'r Hen Goleg yn Aberystwyth, cynllun sydd yn werth £35m ac yn cynnwys gwesty 4*.
Rôl y Bwrdd Gwersylloedd
- Cefnogi'r cyfarwyddwyr a staff y gwersylloedd i ddatblygu cynllun strategol y gwersylloedd gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
- Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol y Gwersylloedd
- Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol y gwersylloedd
- Adolygu'r rhaglen adnewyddu eiddo a chyfalaf y gwersylloedd
- Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol e.e. twristiaeth, cyllid, adnoddau dynol, marchnata, eiddo
- Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd
Rydym am apwyntio aelodau ychwanegol i'r Bwrdd Gwersylloedd
Mae hyd at 2 sedd wag a rydym yn chwilio am brofiad yn y maes addysg dan 16 oed neu letygarwch/twristiaeth.
Manylion y Rôl
- Mae tymor pob aelod o’r bwrdd yn para tair blynedd.
- Cynhelir 2 cyfarfod y flwyddyn sydd yn cynnwys cyfarfodydd ac ar-lein ac un cyfarfod mewn person y flwyddyn.
Beth rydym yn ei ddisgwyl:
- Ymroddiad i weledigaeth a gwerthoedd strategaeth gorfforaethol yr Urdd.
- Cydymffurfiaeth â egwyddorion llywodraethu da, gan gynnwys uniondeb, tryloywder a chyfrifoldeb.
- Parodrwydd i fynegi barn, cefnogi ac herio’n adeiladol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau strategol.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rydym yn ymrwymedig i greu byrddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan unigolion o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yng Nghymru.
Sut i wneud cais
Cwblhewch y ffurflen gais ar lein gan nodi:
- Eich profiad neu ddiddordeb perthnasol
- Pam rydych chi eisiau ymuno â Bwrdd Strategol
- Sut rydych chi’n uniaethu â gweledigaeth a gwerthoedd yr Urdd