Cefndir a phwrpas Bwrdd Technoleg Gwybodaeth yr Urdd

Mae’r  Bwrdd Technoleg Gwybodaeth yn darparu arweiniad strategol ar sut mae technoleg yn cefnogi gweledigaeth Urdd Gobaith Cymru. Mae’r bwrdd yn sicrhau bod seilwaith digidol, systemau TG, , diogelwch gwybodaeth a strategaeth a TG a data yr Urdd yn cael eu datblygu’n effeithiol ac yn unol â gwerthoedd craidd yr elusen.

Rôl y Bwrdd Technoleg Gwybodaeth

  • Cefnogi'r Pennaeth Technoleg Gwybodaeth i  i lunio cynllun strategol Technoleg Gwybodaeth yr Urdd gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
  • Darparu arweiniad a chefnogaeth ar seilwaith a systemau digidol, seiberddiogelwch, strategaeth data, ac arloesi technolegol 
  • Sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio’n effeithiol, yn ddiogel ac yn foesegol i wella darpariaeth gwasanaethau
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd cyflogaeth penodol
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd
  • Monitro risgiau TG, diogelwch a chydymffurfiaeth
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd