Sut allai ddod o hyd i weithgaredd ar gyfer fy mhlentyn?

Os ewch chi draw i'n tudalen gweithgareddau YMA gallwch ddod o hyd i weithgaredd i'ch plentyn. Os ydych chi'n dod o hyd i weithgaredd o ddiddordeb i chi, fe welwch fotwm yn dweud 'Ymuno'. Os cliciwch ar hwn, gallwch archebu lle yma.

Oes newid ir ffordd byddaf yn talu am clybiau chwaraeon yr Urdd?

O Mis Medi mi fydd rhai clybiau chwaraeon yn treialu system taliadau rheolaidd (misol). Rydym yn gobeithio fydd hyn yn hwyluso y broses i rhieni.

Mi fydd rhai clybiau dal yn defnyddio system talu fesul bloc (e.e. 10 wythnos). Bwriad hir dymor fydd bob clwb yn symud i daliadau rheolaidd. 

Nid wyf eisiau talu yn rheolaidd am glwb yr Urdd?

Os mae y clwb yn defnyddio taliadau rheolaidd dyma fydd yr unig ffordd i talu am y clwb. Plîs cysylltwch gydag aelod o staff yr Urdd os hoffwch drafod. 

Beth ddylwn i'w wneud os na allai dalu neu os ydw i'n cael problemau archebu?

Cysylltwch â'ch swyddog lleol am unrhyw gymorth ynghylch taliadau neu faterion archebu a byddant yn gallu cynorthwyo. Am restr llawn o staff Chwaraeon yr Urdd cliciwch YMA.

Lle gallaf weld manylion fy archeb?

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer gweithgaredd yr Urdd, gallwch fewngofnodi i'r Porth yma. Mewngofnoda i'r PORTH ewch i'r opsiwn "gweld archebion chwaraeon fy mhlant" ar yr ochr chwith i weld archebion cyfredol.

Lle mae fy ad-daliad am fy archeb?

Os ydych wedi cysylltu â'ch Swyddog Lleol ac wedi gofyn am ad-daliad am eich archeb, gall hyn gymryd hyd at 21 diwrnod i fynd yn ôl i'ch cyfrif. Os na allwch weld eich ad-daliad ar ôl y cyfnod yma cysylltwch yn uniongyrchol â'r Swyddog Lleol fydd yn gallu cynorthwyo gydag eich ymholiad.

Sut ydw i'n canslo fy nhaliadau rheolaidd?

Os ydych yn dymuno canslo eich taliadau rheolaidd, byddai'n rhaid gwneud hyn yn uniongyrchol drwy gysylltu gydag aelod o staff yr Urdd sydd yn gyfrifol am redeg y clwb.

Sut ydw i'n canslo archeb fy mhlentyn?

Os ydych yn bwriadu canslo eich archeb byddai'n rhaid gwneud hyn yn uniongyrchol drwy gysylltu gydag aelod o staff yr Urdd sydd yn gyfrifol am redeg y clwb.

Partneriaid a Noddwyr