Gwyliau 3 diwrnod llawn gweithgareddau ar gyfer anturiaethwyr bach!

 

Mae'r Gwersyll ger y lli yn enwog am gynnig profiadau bythgofiadwy i blant Cymru. Gyda'r Gwersyll Haf cyntaf un yng Ngwersyll Llangrannog yn 1932, mae'r gwersyll wedi bod yn croesawi plant dros yr haf ers 90 o flynyddoedd.

Gyda dros 20 o weithgareddau ar gael, sy'n amrywio o sgïo i farchogaeth, a dringo, cewch wyliau'n llawn o anturiaethau yma yng Ngwersyll Llangrannog. Porwch drwy'r holl weithgareddau sydd ar gael yma.

Mae’r pris yn cynnwys gwyliau llawn gweithgareddau, pedwar pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite.

Gellir trefnu cludiant bws am bris ychwanegol - mi fydd manylion yn dilyn ar ôl archebu.

Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-12, neu blynyddoedd ysgol 4-7.

Dyddiadau

27 - 29 Gorffennaf 2026

Pa mor hir mae'n para?

3 diwrnod, 2 noson

Pris

£165 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.

Cynllun talu rhandaliadau ar gael.

Llety

Ystafelloedd en suite yn cysgu rhwng 4 i 6 o blant.

Cyfleusterau

Llety o safon uchel gydag ystafelloedd staff gerllaw a lolfeydd i gael ymlacio gyda noson ffilm gyda’r nos.

Bwyd

Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi gan gogyddion y gwersyll â'r pwyslais ar baratoi bwyd iachus. Defnyddir cynnyrch lleol a Chymreig  lle bynnag y bo hynny’n bosibl a defnyddir cyflenwyr dibynadwy sydd yn darparu cynnyrch o'r ansawdd uchaf.

 

Enghraifft o ddiwrnod

AmserlenGweithgaredd
Brecwast Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi
Bore Bore o hedfan i lawr y wifren wib a gwibio i fyny'r wâl abseil a'r wal ddringo
Cinio Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn!
Prynhawn Prynhawn ar gefn y beiciau modur, trampolin, a'r ceffylau
Te Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta
Ar ôl te Ychydig o nofio
Swper Cinio rhost neu bolognese i'r anturiaethwyr llwglyd ar ôl diwrnod prysur
Ar ôl swper Cerdded i lawr i lan y môr Llangrannog am noson braf o hufen iâ a gemau ar y traeth

*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.