YN ANFFODUS MAE'R HOLL SESIYNAU YN LLAWN
Wyt ti eisiau creu celf i gloriau albym? Ail-gymysgu neu gynhyrchu caneuon? Creu ffilmiau a dogfennau i gerddoriaeth poblogaidd? Perfformio ar lwyfannau mwyaf Cymru?
Mae’r Urdd, Clwb Ifor Bach a Maes B yn cyd-weithio i ddarparu cyrsiau creadigol hynod gyffrous i bobl ifanc 16-25 sydd yn ymddiddori yn y byd cerddoriaeth, dylunio a ffilm.
Ymunwch â phedwar o artistiaid a dylunwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mewn cyfres o weithdai proffesiynol arlein dros gyfnod o bedair wythnos.
Dyma gyfle i ymestyn, arbrofi a dysgu sgiliau a thechnegau hollol newydd mewn pedwar maes penodol.
Faint yw'r sesiynau?
Mae'r sesiynau i gyd am ddim diolch i gydweithio rhwng Maes B, Clwb Ifor Bach a'r Urdd.
Ga i fynychu mwy nag un sesiwn?
Mae croeso i bawb fynychu unrhyw nifer o sesiynau.

1) Pob nos Lun: Ionawr 25, Chwefror 1, Chwefror 8, Chwefror 15 (Yn llawn - cofrestrwch i ymuno ar y rhestr aros)
Gweithdy Ffilm: Ymunwch a’r cerddor a’r cyfarwyddwr ffilm, Griff Lynch wrth iddo eich arwain mewn gweithdy arbennig ar olygu, creu fideo’s a dogfennau i gerddoriaeth ac artistiaid.
2) Pob nos Fawrth: Ionawr 26, Chwefror 2, Chwefror 9, Chwefror 16 (Yn llawn - cofrestrwch i ymuno ar y rhestr aros)
Creu Cerddoriaeth. Ymunwch a’r cerddor, Heledd Watkins (HMS Morris) wrth iddi rhannu ei sgiliau cyfansoddi. Ymunwch pob nos Fawrth a un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Dewch i ddysgu dulliau newydd a chyfoes o ysgrifennu caneuon.
3) Pob nos Fercher: Ionawr 27, Chwefror 3, Chwefror 10, Chwefror 17 (Yn llawn - cofrestrwch i ymuno ar y rhestr aros)
Ail-Gymysgu a Cynhyrchu. Ymunwch a un o DJs mwyaf poblogaidd Cymru, Endaf, i ddysgu sut i gynhyrchu cerddoriaeth electronig a sut i ail-gymysgu cerddoriaeth boblogaidd.
4) Pob nos Iau: Ionawr 28, Chwefror 4, Chwefror 11, Chwefror 18 (Yn llawn - cofrestrwch i ymuno ar y rhestr aros)
Gweithdy Celf a Dylunio. Mi fydd y dylunydd a’r cerddor Steffan Dafydd (Clwb Ifor Bach, Penglog), yn rhannu ei sgiliau dylunio gyda chi mewn gweithdy celf. Dewch i ddysgu sut i gyfuno prosesau digidol ac analog a sut i greu gwaith celf i safon uchel a proffesiynnol!