Swyddog Datblygu / Digwyddiadau Chwaraeon Ceredigion a Sir Benfro (cyfnod mamolaeth)

Teitl y swydd:  Swyddog Digwyddiadau a Datblygu Chwaraeon Ceredigion a Sir Benfro

Math o gytundeb:  12 mis (cyfnod mamolaeth)

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos)

Graddfa:  Gweithredol 4: £29,409 - £31,430 y flwyddyn

Lleoliad:  Swyddfa Llangrannog / Aberystwyth  

Dyddiad ac amser cau:  14 Gorffennaf am 17:00

Dyddiad cyfweld:  20 Gorffennaf

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y swydd

Nod y swydd fydd i gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn gweithgareddau chwaraeon, clybiau a chystadlaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, trwy ddatblygu darpariaeth chwaraeon a chydlynu digwyddiadau o safon uchel. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys recriwtio, mentora a datblygu gwirfoddolwyr, a sicrhau profiad diogel a chadarnhaol i bawb sy’n cymryd rhan.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Aled Jones (Rheolwr Rhanbarthol Chwaraeon y Gogledd) ar 07976003315 neu aled@urdd.org 

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org