Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid Caerdydd
Math o gytundeb: Tymor penodol (hyd at 31 Mawrth 2027 yn y lle cyntaf)
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Gweithredol 3: £26,204-£28,566 y flwyddyn
Lleoliad: Caerdydd
Dyddiad Cau: 10 Medi
Dyddiad Cyfweld: 21 Medi
Swydd Ddisgrifiad: Cliciwch yma
Ffurflen Gais: Cliciwch yma
Y Swydd
Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Bartneriaeth Ieuenctid (Urdd, Menter Caerdydd a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd), gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yr ardal.
Bydd y cynnig gwaith ieuenctid yn:
- Gyfoes ac yn adlewyrchu gofynion pobl ifanc trwy wrando ar eu llais.
- Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc Cymru o bob cefndir cymdeithasol.
- Ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud a’r Gymraeg, gan ddatblygu hyder pob person ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn cyd-asio gyda Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Elen Evans, Rheolwr Cymunedol y De ar elenevans@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org
