Swyddog Ieuenctid Ynys Môn

Teitl y swydd:  Swyddog Ieuenctid Ynys Môn

Math o gytundeb:  Tymor penodol, hyd at 31 Awst 2029

Oriau gwaith:  Llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:  Gweithredol 3 : £26,204 - £28,566 y flwyddyn

Lleoliad:  Llangefni

Dyddiad cau:  24 Awst

Dyddiad cyfweld:  02 Medi

Swydd ddisgrifiadCliciwch yma

Ffurflen gaisCliciwch yma

 

Y Swydd

Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr, gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yn seiliedig ac yn unol â thargedau lleol a’r Urdd. Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn:

1. Gyfoes ac yn adlewyrchu gofynion pobl ifanc trwy wrando ar eu llais.

2. Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc Ynys Môn o bob cefndir cymdeithasol.

3. Ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud a’r Gymraeg, gan ddatblygu hyder pob person ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn cyd-asio gyda Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion.

 

Am fwy o fanylion cysylltwch â Eryl Williams (Rheolwr Cymunedol y Gogledd) ar eryl@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau dros e-bost at swyddi@urdd.org