Eisteddfod Genedlaethol

Dewch i  aros yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol!

Mae Gwersyll Caerdydd wedi ei leoli ym mwrlwm Bae Caerdydd, dan do Canolfan Mileniwm Cymru.

Yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, bydd y Gwersyll yn agor eu drysau i’r cyhoedd.

Lleoliad arbenig i unigolion, teuluoedd, ffrindiau neu grwpiau! 

 

Y Llety

Mae’r Gwersyll yn cynnig cyfle i flasu danteithion prifddinas Cymru wrth aros yn adeilad unigryw Canolfan Mileniwm Cymru, un o brif ganolfannau celfyddydol y byd. Mae 29 o ystafelloedd gwely a phob un yn ystafelloedd en-suite.

Mae ein Gwersyll wedi cael ei sgorio yn hostel 4 seren gan Croeso Cymru.

Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech.

Mae hefyd neuadd/theatr yn y Gwersyll, lolfeydd, ffreutur ac ystafelloedd dosbarth, digon o lefydd i gymdeithasu! Gallwn roi ffilm ymlaen i chi gyda’r nosweithiau, neu ddisgo Gwersyll!

 

Caerdydd a'r Bae

Mae Caerdydd yn ddinas gyfoes sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Dinas sy’n datblygu’n barhaol gyda Bae Caerdydd, ble lleolir y Gwersyll, yn un o ddatblygiadau glan y môr mwyaf cyffrous Ewrop. Ar garreg ein drws mae gwledd o atyniadau o’r radd flaenaf sy’n cyfuno hanes a diwylliant, y traddodiadol a’r cyfoes - theatrau, amgueddfeydd, orielau, lleoliadau celfyddydol a chanolfannau chwaraeon. Mae’r Bae hefyd yn lleoliad delfrydol ar gyfer ffilm a theledu gyda chartref newydd stiwdio BBC ger y Gwersyll.

Mae gan y Gwersyll amrywiaeth o gysylltiadau gyda gweithgareddau gwahanol yn y ddinas, a gallwn drefn rhai gweithgareddau ar eich rhan. Dewch i siarad gyda ni yn y dderbynfa i drafod beth sydd ar gael.

Mae nifer o fwytai gwahanol ac amrywiol yn y Bae ac yn y dre. Gall ein staff cyfeillgar archebu bwrdd i chi yn nifer o fwytai’r ddinas.

Gellir dod o hyd am fanylion pellach am Gaerdydd.

 

Eisteddfod Genedlaethol

Eisteddfod Genedlaethol Cymru'r ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop. Eleni, mae’r Eisteddfod yn cael ei gynnal ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst 20224.

Gellir dod o hyd am fwy o fanylion am yr Eisteddfod yma.

 

 

Sut i Gyrraedd yr Eisteddfod o’r Bae

Mae’n ddigon hawdd i gyrraedd yr Eisteddfod o Fae Caerdydd. Mae gorsaf tren Bae Caerdydd llai na 5 munud ar droed. Mae trên yn mynd o’r bae i orsaf Heol y Frenhines, yna newid yno i ddal un ai trên Merthyr Tudful, Aberdâr neu Treherbert i Bontypridd. Mae’r trenau yn rhedeg bob chwarter awr, ac yn cymryd tua 35 munud o Fae Caerdydd i Bontypridd.

Bob bore bydd aelod o staff yr Urdd ar gael i dywys chi ar y trên holl ffordd i’r Eisteddfod. Dewch i holi’r dderbynfa noson cynt i weld pryd fydd y tywyswr yn gadael y diwrnod canlynol.

 

Diwrnodau hwyl

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, bydd y Gwersyll yn cynnal diwrnodau hwyl i blant ar ddiwrnodau amrywiol. Croeso i chi archebu lle i’ch plant ar y diwrnodau hwyl. Bydd eich plant yn mwynhau anturiaethau ym Mae Caerdydd, lle byddwch chi yn mwynhau ar Faes yr Eisteddfod!

 

Prisoedd

Mae prisoedd ystafelloedd fel a ganlyn:

 

Arhosiad 1 noson: £180

Arhosiad 2 noson: £350

Arhosiad 3 noson: £510

Arhosiad 4 noson: £660

Arhosiad 5 noson: £800

Arhosiad 6 noson: £930

Arhosiad 7 noson: £1050

Arhosiad 8 noson: £1160

Arhosiad 9 noson: £1260

 

Byddwn yn darparu dillad gwely a thywelion.

 

Gellir ychwanegu brecwast i’ch arhosiad am £5 y pen y diwrnod.

 

 

I archebu

Ebostiwch caerdydd@urdd.org neu ffoniwch 02920 635678