Yn sgil partneriaeth newydd gyda Disability Arts Cymru a chwmni theatr Taking Flight, mae’r Urdd am wella hygyrchedd a mynediad at ddigwyddiadau celfyddydol y Mudiad, hynny'n cynnwys maes Eisteddfod yr Urdd.

 

O ganlyniad, mae’r Urdd yn chwilio am aelodau ar gyfer fforwm hygyrchedd newydd drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Y gobaith yw denu unigolion 16-25 oed fyddai’n medru rhannu profiadau neu arbenigedd yn y maes anableddau a hygyrchedd i’r celfyddydau, i gydweithio â Threfnwyr Eisteddfod yr Urdd, cael profiad gwaith mewn trefnu digwyddiadau, a sicrhau bod maes a gweithgareddau’r ŵyl yn hygyrch a chynhwysol.

 

Os hoffech chi ymuno'r fforwm yma, mae modd i chi wneud hynny trwy ddilyn y linc i'r ffurflen gofrestru ar y dudalen yma.

 

Dyddiad Cau ymuno: 12yp ar y 28/02/24

Ymuna â'r Fforwm fan hyn