Teithio i'r Eisteddfod eleni? Dyma sut i'n cyrraedd ni!
Dilynwch yr arwyddion swyddogol er mwyn cyrraedd y meysydd parcio. Mae’n allweddol bod gyrwyr yn dilyn yr arwyddion melyn pwrpasol ac yn gwrando ar y cynghorion a roddir er mwyn sicrhau bod y traffig yn symud yn hwylus. Gwrandewch hefyd ar yr adroddiadau trafnidiaeth ar y radio.
Gan ddefnyddio Sat Nav
Defnyddiwch SY22 6HT yn y sat nav / google maps / Waze / unrhyw offeryn llywio arall. Neu gallwch ddefnyddio: What3Words
Cyfarwyddiadau o'r Trallwng (yn agosáu at Meifod o'r de):
Cymerwch yr A458 i'r gorllewin o'r Trallwng (arwydd ar gyfer Dolgellau). Teithiwch drwy Llanfair Caereinion a throi i'r dde ar y A495 a dilynwch arwyddion i’ch arwain i’r Meysydd Parcio.
Cyfarwyddiadau o Groesoswallt (yn agosáu at Meifod o'r gogledd/dwyrain):
Dilynwch yr A483 i'r de allan o Groesoswallt (arwydd ar gyfer y Trallwng). Trowch i'r dde i'r A495 (arwydd ar gyfer Llansantffraid-ym-Mechain). Parhewch ar y ffordd hon drwy Meifod hyd nes i chi gyrraedd arwyddion a fydd yn eich arwain i’r meysydd parcio priodol.
Meysydd Parcio
Mae'r maes parcio ar gyfer yr Eisteddfod eleni wedi'i gynllunio ar gyfer traffig sy'n dod drwy'r holl brif lwybrau i Meifod - dilynwch ARWYDDION y DIGWYDDIAD i'r meysydd parcio swyddogol.
Mae'r holl barcio am ddim ac o fewn pellter cerdded i’r Maes.
Bathodynnau Glas
Darperir ardal barcio benodol ar gyfer pobl ag anableddau sy’n ddeiliaid bathodynnau glas.
Dylai ymwelwyr ddilyn yr arwyddion priodol i'w harwain i faes parcio'r Bathodyn Glas, a dilyn yr arwyddion i fynedfa'r maes parcio. Bydd angen arddangos y bathodyn yn y cerbyd.
Mae’r meysydd parcio yn agor am 6.30yb. Agorir y Maes am 7.45yb