Yn unol a rheol 10, tudalen 9 yn y Rhestr Testunau, bydd unrhyw newidiadau a wneir i’r Rhestr Testunau yn ymddangos ar wefan Eisteddfod yr Urdd: urdd.cymru/eisteddfod o dan y pennawd Rhestr Testunau / Newidiadau. Os oes unrhyw wahaniaeth yng nghyfieithiad y fersiwn Saesneg, y fersiwn Gymraeg fydd yn cael ei ddilyn.
26/2/24
Cystadleuaeth 129 - Llefaru bl7,8 a 9. Y Filltir Sgwar, Elinor Wyn Reynolds
Mae mwy nag un fersiwn o'r gerdd yn bodoli. Y fersiwn o'r llyfr Pigion Beirdd y Mis ydi'r un swyddogol mae'r urdd yn ei ddefnyddio ond mi fydd beirniaid yn yr eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn derbyn y fersiynnau eraill o'r gerdd hefyd. Os NAD ydych yn perfformio'r fersiwn swyddogol o'r llyfr Pigion Beirdd y Mis yna dewch a chopi gyda chi ar y dydd.
26/09/23
Cystadlaethau 33 a 34: Wedi ychwanegu y rheol – ‘Rhaid i’r mwyafrif o’r aelodau fod o dan 25 oed a phawb o dan 30 oed.’
06/11/2023
Cystadleuaeth 134: Mae newid wedi cael ei wneud i ddarn gosod cystadleuaeth 134 – Llefaru Unigol 19 – 25 oed: Detholiad o Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros. Mae'r darn gosod cywir rwan ar ein tudalen gwefan darnau gosod.
13/11/23
Cystadleuaeth 150: Newid i eiriad y gystadleuaeth.
Perfformiad Theatrig Unigol Bl.7, 8 a 9 Perfformiad o un ai:
a) Monolog o ddrama, llyfr Cymraeg neu sgript wreddiol
NEU
b) Cân - cân bop, gwerin neu o sioe gerdd Dim hwy na 3 munud Y perfformiad yw'r elfen bwysig, sef cyfleu y stori a'r cymeriad, nid cywirdeb I'r copi bob tro. Rhaid sicrhau hawlfraint cyn cofrestru i gystadlu
07/12/2023
Cystadleuaeth 132: Mae newid wedi cael ei wneud i ddarn gosod cystadleuaeth 132 – Llefaru Unigol Bl.10 a dan 19 oed: ‘Trais a threfn’, Iwan Llwyd. Mae'r darn gosod cywir rwan ar ein tudalen gwefan darnau gosod.– lawrlwythwch y fersiwn ar ôl y 7/12/23.
29/01/24
Cystadleuaeth 10: Côr Bl.6 ac iau Amser Gwely - Robat Arwyn
Mae geiriau olaf tud.37 ychydig yn wahanol i'r rheiny sydd yn y gerddoriaeth - y copi cerddorol sy'n gywir.
Hefyd, mae'r perfformiad ar y CD yn cynnwys nodyn anghywir yn y cytganau. Cadwch at nodau'r copi ar y geiriau 'cadw bob un' (bar 18) sef nodau Eb C Bb C and nid B naturiol (fel sydd ar y CD).
01/02/24
Cystadleuaeth 126: Llefaru Unigol Bl. 5 a 6.
Derbyn y ffyrdd gwahanol o ddweud yr isod:
Llinell 7: ‘Gam tu ôl i bawb arall’ Llinell 25: ‘A dyna’i diwedd hi’ |
Llinell 7: ‘Gam tu ôl i bawb’ Llinell 25: ‘a dyna ddiwedd arni’ |
15/02/24
Cystadleuaeth 16: Unawd Bechgyn Bl. 7, 8 a 9
Âf i Draw Gyda ‘Nhad i Aredig – John Jeffreys
Bar 55 y copi yn Eb fwyaf. Does dim dot i fod ar y cwafer cyntaf – dylid canu 6 cwafer cyson yn y bar fel yn y copïau yn F a G fwyaf.
22/02/24
Cystadleuaeth 21: Unawd 19-25 Fy Serenâd ('La Serenata') - Paulo Tosti
Francesco Paulo Tosti: 30 Songs (High Voice) - HL50484320
Mae'n ymddangos bod camgymeriad yn y copi ar gyfer llais uchel.
Tudalen 88, bar olaf y 4ydd erwydd: 'E a' baci mieri' A yw nodyn 1af y bar nid F.
22/02/24
Cystadleuaeth 23: Côr Bl.9 ac iau (Adrannau) - Mae'r Dyfodol yn ein Dwylo Ni
Soprano bar 50 - Mae'r cwlwm sy'n clymu'r ddau nodyn F ganol ar goll – gweler isod: