Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:

 

• wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg

• yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod

• yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg

 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr rhwng 19 a 25 oed, sydd yn aelod o’r Urdd. Ceir diffiniad o ‘ddysgwr’ yn Rheolau Cyffredinol y Dysgwyr, tudalen 8 y Rhestr Testunau. Mae croeso i unigolyn sydd wedi dod at y Gymraeg trwy sustem trochi gystadlu, ond eu bod wedi bod mewn addysg Gymraeg am lai na phedair blynedd.

Sut i gystadlu?

 

Bydd gofyn i bob cystadleuydd ateb y cwestiynau isod ar glip fideo (dim mwy na 2 funud) ac yn ysgrifenedig ar y ffurflen gais a geir ar wefan yr urdd / trwy e-bostio eisteddfod@urdd.org

1 Brawddeg yn cyflwyno dy hun

2 Oes rhywun yn y teulu yn siarad Cymraeg?

3 Beth yw dy resymau dros ddysgu’r Gymraeg?

4 Sut y dysgaist ti’r Gymraeg?

5 Beth yw effaith dysgu’r Gymraeg ar dy fywyd, a sut wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg?

6 Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

Lawrlwythwch gopi o'r ffurflen gais sydd i'w ganfod ar y botwm melyn.

Dylid uwchlwytho'r ffurflen gais a'r fideo i'r Porth erbyn y Mawrth 1 2024