Tocynnau Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024

Sut ydw i’n archebu tocyn i faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024?

Gallwch archebu eich tocynnau yma.

Pa fath o docyn fyddai'n defnyddio i gael mynediad i Faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn?

Eleni, bydd Eisteddfod yr Urdd yn defnyddio e-docynnau drwy gydol yr Ŵyl gan ofyn i ymwelwyr ddangos eu tocynnau ar ffon neu dabled yn y Ganolfan Groeso i gael mynediad. Bydd cod QR unigryw ar bob e-docyn a bydd staff yn sganio tocynnau ymwelwyr yn y fynedfa. Dim ond un waith bydd modd cael mynediad ar bob tocyn.

Oes rhaid archebu tocyn ar wahân ar gyfer prif seremonïau a Gŵyl Triban?

Mae tocyn maes yr Eisteddfod yn rhoi mynediad i’r prif seremonïau bob dydd, ac i Ŵyl Triban rhwng Mai 30 a Mehefin 1.

Oes angen i mi brynu tocyn ar wahan i'r Sioeau Cynradd a Ieuenctid? 

Oes. Mae rhain hefyd ar cael i'w archebu ar ein system docynnau yma.

Ydw i'n gallu hawlio tocyn incwm is?

Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. 

Dyma'r meini prawf:

· Cymhorthdal Incwm

· Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

· Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

· Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Elfen warantedig

· Credyd Pensiwn Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith

· Credyd Cynhwysol

· Aelodaeth £1

 Mwy o wybodaeth yma.

Ga i brynu tocyn ar y drws? 

Cei! Ond bydd y pris yn codi Mai 19 felly rydym yn annog pobl i archebu o flaen llaw. Bydd modd cael tocyn incwm is ar y drws, ond bydd angen dod a phrawf i brofi dy fod yn cwrdd â'r meini prawf.

Ydw i'n gallu cael tocyn cyfaill am ddim os ydw i'n berson anabl?

Wyt. Wrth archebu tocyn anabl, mae opsiwn i ychwannegu tocyn cyfaill am ddim.

Ydw i’n gymwys am Aelodaeth £1?

Os yw y plentyn yn derbyn cymorth ariannol megis talebau ariannol tuag at ‘ginio ysgol am ddim’ (Bl1 i fyny), grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol yna pris aelodaeth yw £1.

Sut mae dod o hyd i fy rhif aelodaeth?

Er mwyn dod o hyd i rif aelodaeth, gallwch unai chwilio am ‘Porth yr Urdd’ yn eich blwch e-bost a chwilio am neges gyda theitl ‘Rhif Aelodaeth yr Urdd’. Bydd y neges yma’n cadarnhau yr aelodaeth ac yn nodi’r rhif aelodaeth ynddo, neu gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Porth, cliciwch ar ‘Ymuno/adnewyddu a thalu’ a bydd unrhyw aelodaeth cyfredol yn ymddangos yn y tabl.

Rydw i'n archebu tocyn i fwy nag un person, sut ydw i'n rhannu'r tocynnau?

Os ydych yn prynu tocynnau i grŵp, gôr neu ysgol a ni fydd pawb yn cyrraedd gyda’i gilydd, bydd yn rhaid i chi argraffu’r tocynnau (neu dynnu lun ar sgrin) a’u rhannu gyda’r aelodau o flaen llaw iddyn nhw allu cael mynediad i’r Maes.

Mae fy mhlentyn yn cystadlu - ydi nhw angen tocyn maes?

Os yw eich plentyn yn cystadlu yn yr Eisteddfod, bydd angen tocyn arnyn nhw. Mae rhain ar gael gyda'r tocynnau cyffredin ond mae pris gostyngol ar eu cyfer.

 

 

Ga’i brintio fy nhocyn maes?

Rydym yn annog mynychwyr Eisteddfod yr Urdd Sir  i ddefnyddio ffôn i arddangos tocynnau. Os oes rhaid printio eich tocyn, mi fyddwn yn gallu sganio’r tocyn ar bapur.

Dwi'n hyfforddi / athro. Ydw i'n cael tocyn am ddim?

Rydym yn cynnig un tocyn oedolyn am ddim ar gyfer pob 10 tocyn cystadleuydd sy’n cael eu archebu mewn un archeb. Bydd y tocyn yma yn cael ei ychwanegu i’ch basged ar ein system docynnau.