Bob blwyddyn ar  ddiwrnod ym mis Mai  yn ddi-dor ers 1922, mae Neges Heddwch wedi ei anfon ar ran bobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd.

Mae’r Neges yn cael ei chreu, a’i rhannu, yn flynyddol gan bobl ifanc Cymru. Ei bwriad yw uno plant a phobl ifanc ar draws y byd er mwyn ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.

Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oresgyn rhyfeloedd byd a newidiadau mawr yn ein dull o gyfathrebu. 

Dros y blynyddoedd mae’r Neges wedi ei rhannu drwy Morse Code, ar radio, a thrwy’r post - ffurf o gyfathrebu gwahanol iawn i rwydweithiau digidol heddiw. 

Hanes y neges

Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni oedd arloeswr y Neges. Roedd yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig, ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai’r heddychwr mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd.

Fe benderfynodd Syr Ifan y dylai’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r Neges, er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd.

Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924, ac erbyn 1935, roedd 68 o wledydd wedi ymateb. Hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, danfonwyd y Neges yn ddi-dor.

Yn y 50au rhoddwyd cyfrifoldeb i’r Urdd i gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.

Dyma rai o ymatebion mae pobl ifanc Cymru wedi ei dderbyn i’r Neges gan ieuenctid y byd dros y blynyddoedd:

  • Yr Almaen, 1946: “Mae’n flynyddoedd ers inni glywed oddi wrth blant Cymru. Mae hi wedi mynd yn ddu arnom ni. Hoffem ni glywed oddi wrthych eto.”
  • Siapan, 1948: "Rydym yn hapus iawn i wybod, wedi blynyddoedd lawer o unigrwydd, eich bod wedi danfon geiriau calonogol o gyfeillgarwch a chariad."
  • India, 1981: “Rydyn ni’n cytuno gyda’r neges, fe wnawn yr oll gallwn ein gorau i’w gwireddu. Mae’n rhaid i bobl ifanc arwain.”
  • California, UDA, 2019: Rydyn ni’n diolch i chi am eich neges ac mae’n dod a gobaith i ni.  Mae gan bob person ifanc lais – diolch.  Plîs peidiwch ag ildio, ni yw’r genhedlaeth a all wneud newid.”

 

Themâu’r neges

Mae’r thema’r Neges yn cael ei ddewis yn flynyddol gan bobl ifanc Cymru. Mae’n llwyfan i’r genhedlaeth nesaf i rannu’r hyn sydd yn bwysig iddyn nhw a dylanwadu ar eu dyfodol.

Dros y blynyddoedd mae’r themau wedi cynnwys y bom atomig, ffoaduriaid, tlodi, rhyfel, trais, hiliaeth a chynhesu byd eang.

 

Y Neges heddiw

Heddiw mae’r Neges yn cael ei chyfieithu i dros 50 o ieithoedd ac yn cyrraedd dros 30 o wledydd ar draws y byd.  Diolch i ddatblygiad technoleg, mae wedi cyrraedd dros 85 miliwn o bobl yn rhyngwladol drwy ddylanwad y wasg a chyfryngau cymdeithasol.

Ynghyd â chefnogaeth gan ysgolion, sefydliadau ac elusennau Cymru ac yn rhyngwladol, mae’r Neges yn  dennu cefnogaeth gan rai o enwau mawr y byd; gan gynnwys actorion a pherfformwyr byd-enwog, athletwyr, gwleidyddion, a dylanwadwyr di-ri.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Urdd wedi mynd a’r Neges i’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ac UNESCO ym Mharis. 

Lansiwyd Neges Heddwch ein canmlwyddiant yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy, mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Prif Weinidog Cymru.

Gellir hefyd gweld geiriau pwerus Neges 2023 mewn murlun arbennig ar ochr ty yn ardal Adamsdown yng Nghaerdydd – y murlun Cymraeg cyntaf o’i fath yn y brif ddinas.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2025

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn canolbwyntio ar Dlodi. Gyda'r argyfwng tlodi plant presennol i'w weld yng Nghymru ac ar draws y byd, mae'r Urdd a phobl ifanc Cymru wedi dewis canolbwyntio ar y mater hollbwysig hwn.

Gydag un ym mhob tri o blant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi, mae Neges Heddwch 2025 yn datgan yn glir yr angen am newid.

Daw newid a gweithred o’r gymuned yn gyntaf drwy roi llais i bawb. Galwn ar y bobl sydd mewn pŵer ar draws y byd i feddwl ac ystyried cenedlaethau’r dyfodol.

Cliciwch Neges Heddwch i ddarganfod mwy.