Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2019 - Llais

Lluniwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2019 gan bobl ifanc sy'n aelodau o Fwrdd Syr IfanC a Chynllun Cymraeg Bob Dydd.

Penderfynodd y criw godi eu Llais a sefyll gyda phlant a phobl ifanc Cymru ac ar draws y byd sydd yn dioddef o drais - trais cyllyll, trais gynnau a thrais drwy ryfel.  

Gyda'ch cymorth chi â'n partneriaid - 

  • Cyrhaeddodd y Neges dros 5.2 miliwn o bobl ar draws y byd drwy #heddwch2019! 
  • Gwyddwn bod 35 o wledydd wedi eu cyrraedd (bosib iawn bod mwy!), a cyfieithiwyd y Neges i 44 o ieithoedd.

Diolch am y nifer fawr iawn o ymatebion fideos wnaethoch chi eu danfon o bob cwr o Gymru ac o bedwar ban byd. Gawson ni hyd yn oed fideos gan yr actor Hollywood Matthew Rhys, Sadiq Khan (Maer Llundain), Eluned Morgan AC a Liz Saville Roberts AS. Welsoch chi nhw? 

Roedd yr ymatebion ysgrifenedig yn eu cannoedd, os nad miloedd. Gydag enwau mawr yn helpu’r achos gan gynnwys yr actor Michael Sheen, Mark Drakeford (Prif Weinidog Cymru), yr actor Iwan Rheon, y cerddor Mei Gwynedd, yr actor Aneurin Barnard, y gwleidydd Mhairi Black AS, y canwr Lloyd Macey, y cogydd Beca Lyne-Pirkis, Bardd Plant Cymru, a Llywydd Cynulliad Cymru Elin Jones AC.   

Diolch yn fawr iawn! 

 

Lansio yn Llundain

Aethom ar daith lwyddiannus a diddorol iawn i Lundain i lansio'r Neges, gan weithio gyda'r Eastside Young Leaders Academy wnaeth roi croeso mawr iawn i'n aelodau, sef grŵp o Ysgol Uwchradd Plasmawr, Caerdydd a chynrychiolwyr o Fwrdd Syr IfanC a Chymraeg Bob Dydd. 

criw lansio NHED 2019 Llundain bach.jpg

Gweithiom hefyd gyda phrosiect Fearless elusen Crimestoppers fu'n cynnal gweithdai yn Ysgol Plasmawr ac yn EYLA er mwyn dysgu mwy am effeithiau trais, a thrais cyllyll yn arbennig ar bobl ifanc. Bu llawer o rannu profiadau, dysgu a chreu ffrindiau newydd ar hyd y daith. 

Dyma fideo byr o'r ymweliad ac effaith y Neges eleni –