Thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da y Canmlwyddiant oedd Yr Argyfwng Hinsawdd

#Heddwch100

NHED2022-linell-gwyrdd-1.png

Neges Heddwch ac Ewyllys Da y Canmlwyddiant: Yr Argyfwng Hinsawdd.

Yr argyfwng hinsawdd oedd thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da canmlwyddiant yr Urdd. Mae’n alwad i weithredu gan blant a phobl ifanc Cymru i bobl ifanc y byd, i ddefnyddio pwysigrwydd a phŵer eu llais i erfyn ar lywodraethau a chorfforaethau mawr i weithredu ar frys er mwyn achub ein planed. Mae’n amser deffro!

Ym mlwyddyn canmlwyddiant yr Urdd, lansiwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022 yng Nghanolfan Heddwch Nobel yn Oslo, Norwy, mewn digwyddiad arbennig yng nghwmni Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Yno hefyd i gyflwyno’r neges oedd y criw o bobl ifanc a oedd yn gyfrifol am ei llunio eleni, sef myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, yn dilyn partneriaeth rhwng yr Urdd a’r brifysgol.

Er mwyn dyfnhau pwysigrwydd rhyngwladol y neges, ffurfiwyd partneriaeth ffurfiol rhwng myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a chriw o fyfyrwyr o’r University of Life Sciences yn Norwy. Cynhaliwyd gweithdy rhithiol i alluogi myfyrwyr o’r ddwy brifysgol i drafod y pwnc a rhannu syniadau a diwylliannau gwahanol.


NHED2022-linell-gwyrdd-1.png

Cân Lily Beau - Mae’n Amser Deffro!

Mae fersiwn gerddorol o’r neges wedi ei recordio gan Lily Beau, a gyfansoddwyd a cynhyrchwyd gan Rich James ac Ifan Davies o Stiwdio Ferlas.

Gellir lawrlwytho’r gân yma.

Ac mae’r gân ar gael ar YouTube drwy glicio yma.

Y Neges:


NHED2022-linell-gwyrdd-1.png

Cyrhaeddiad y Neges

Eto yn 2022, llwyddodd y neges i gyrraedd pob cornel o'r byd, gan gyrraedd 82 o wledydd mewn 101 o ieithoedd.

Roedd 224,214 wedi edrych ar y fideo a dros 32.47miliwn o argraffiadau potensial ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ymysg rheiny wnaeth rannu'r neges a dangos cefnogaeth oedd Greenpeace International, British Council, Boris Johnson, ac enwogion megis Michael Sheen a Catherine Zeta-Jones.

Cafwyd sylw i'r neges yn y cyfryngau a'r wasg, gyda darn yn y One Show ac erthyglau yn yr Independant, Mail Online a Wales Today.


NHED2022-linell-gwyrdd-1.png

Pecyn Addysg Argyfwng Hinsawdd

Pob blwyddyn mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn rhoi llais i blant a phobl ifanc Cymru i dynnu sylw’r byd at bwnc perthnasol a phwysig. Penderfynodd yr Urdd i ffocysu ar yr argyfwng hinsawdd fel thema Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Canmlwyddiant. Mae’n bwnc sy’n achosi pryder i bobl ifanc ar draws y byd, ac mae’n bwysig i weddill y byd gwrando ar leisiau’r ieuenctid a gweithredu dros ddyfodol y blaned.

Fel rhan o’r neges, darparodd yr Urdd pecyn addysg ar thema argyfwng hinsawdd. Mae’n gyfle arbennig i ddarparu a chefnogi addysg i blant a phobl ifanc ar bwnc hollbwysig a chyfoes.

Yn 2022 cyd-weithiodd yr Urdd gyda’r Welsh Centre for International Affairs (WCIA) a Climate Cymru er mwyn creu pecyn addysg y canmlwyddiant.

NHED2022-linell-gwyrdd-1.png

 

Gwethdai Creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2022

Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2021 cafwyd cyfres o weithdai ar gyfer creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r canmlwyddiant efo myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Yn dilyn ymchwil ar yr argyfwng hinsawdd, creuwyd cynnwys y gweithdai.

Dyma flas o rai o’r gweithdai:

  • Sesiwn holi ac ateb gyda’r Athro Gareth Wyn Jones a Chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Haf Elgar, yn trafod materion megis yr hinsawdd a gwrthdaro, ymgyrchoedd atal newid hinsawdd, polisïau amgylcheddol, COP26 a mwy.
  • Sgwrs gyda Alejandra Arias o Force of Nature, sefydliad sydd yn trafod pryder o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd ac yn troi hyn i weithredoedd cadarnhaol. Ewch yma ar gyfer eu gwefan.
  • Croesawu myfyrwyr o’r Norwegian Univeristy of Life Sciences er mwyn cynnal sgwrs rithiol am yr argyfwng hinsawdd rhwng myfyrwyr y ddwy brifysgol.