#Heddwch2020

Galwad i'r byd i ddeffro gan bobl ifanc Cymru

Neges 2020 gan Urdd Gobaith Cymru, oedd galw ar bobl ifanc ledled y byd i sicrhau nad yw gwersi a ddysgwyd gan argyfwng Covid19 yn cael eu hanghofio. Cafodd yr alwad ei chyfleu yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol pobl ifanc Cymru a lansiwyd ar y 18fed o Fai. 

Roedd yr argyfwng wedi tanlinellu beiau mawr bywyd modern, ac fe alwodd 55,000 o aelodaur mudiad cenedlaethol ar arweinwyr gwledydd y G20 i arwain y ffordd wrth fynd ir afael âr materion hynny. 

Ar ran aelodau’r mudiad, fe ysgrifennodd Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson; Arlywydd UDA, Donald Trump; Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin a phob arweinydd G20 arall. 

Lansiwyd yr ymgyrch fyd-eang i dynnu sylw at yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu o argyfwng Covid19, gan ei alw’n ddeffroad i’r byd a rhybuddio yn erbyn dychwelyd i rai o ffyrdd hunanol, dinistriol y gorffennol.