Gwyliwch Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023: Galw. Nhw. Allan.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023: Gwrth-hiliaeth

Roedd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 yr Urdd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth. Mae’n datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan.  

Crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda'r cerddor Eädyth a Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones. Mae'n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i:

  • Datgymalu camwahaniaethu systemig
  • Herio rhagfarnau diarwybod
  • Galw allan hiliaeth pan welwn ni hi bob amser.

Ar y 18fed o Fai 2023, cafodd y neges ei rannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol, o bobl ifanc Cymru i weddill y byd. 

Gweithdy Coleg y Cymoedd

Er mwyn cefnogi gwaith neges 2023, cynhaliodd yr Urdd weithdy gwrth-hiliaeth ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ar y 18fed o Fai.

Arweiniwyd y gweithdy gan Natalie Jones, Swyddog Addysg S4C a chynrychiolydd Race Council Cymru.

Yn ystod y gweithdy rhannwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023 gyda’r myfyrwyr, gan ddilyn gyda trafodaeth am fod yn wrth-hiliaeth, yn ogystal â sut i fagu hyder i alw allan hiliaeth a rhagfarn.

Diolch i Natalie a’r myfyrwyr am y cyfraniadau a’r trafodaethau pwysig yn ystod y gweithdy.

Pecyn Addysg Gwrth-hiliaeth

Pob blwyddyn mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn rhoi llais i blant a phobl ifanc Cymru i dynnu sylw’r byd at bwnc perthnasol a phwysig.

Fel rhan o’r neges, mae’r Urdd yn darparu pecyn addysg ar thema gwrth-hiliaeth. Mae’n gyfle arbennig i ddarparu a chefnogi addysg i blant a phobl ifanc ar bwnc hollbwysig a chyfoes.

Yn 2023, roedd yr Urdd wedi cyd-weithio gyda S4C er mwyn creu’r pecyn addysg.

Ewch isod i lawrlwytho'r pecyn.

Pecyn Addysg_Education Pack - Neges Heddwch_7.7.23.pdf

Ewch yma i lawrlwytho Pecyn Addysg Gwrth-Hiliaeth Neges Heddwch 2023.

Lawrlwytho »

Gweithdy Creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023

Ym mis Ionawr 2023 cafwyd gweithdy yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd er mwyn creu’r neges.

Cydweithiodd grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd i greu’r neges, gyda chymorth y cerddor Eädyth, Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones, a Sunil Patel o No Boundaries.

Cafwyd trafodaethau pwysig iawn yn ystod y dydd, ac o fewn ychydig o oriau roedd geiriau pwerus y neges wedi dechrau ffurfio.

Diolch i bawb a gymerodd rhan yn y dydd a helpu i greu neges bwerus ar y thema o wrth-hiliaeth ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2023.

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Eädyth, Natalie Jones a Sunil Patel yng Ngweithdy Creu Neges Heddwch 2023
Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Eädyth, Natalie Jones a Sunil Patel yng Ngweithdy Creu Neges Heddwch 2023

Y Neges:

Diolch i