Cefndir a Hanes y Neges

Ers 1922 yn ddi-dor mae’r broses flynyddol ar Fai 18 o anfon neges ar ran bobl ifanc Cymru i bobl ifanc yng ngweddill y byd wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol.  

Does dim un gwlad arall yn y byd wedi llwyddo i wneud hyn, gan oroesi rhyfeloedd byd a newidiadau sylweddol mewn dulliau cyfathrebu, o Morse Code i radio a'r gwasanaeth bostio, i'r rhwydweithiau digidol heddiw.  

Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni oedd arloeswr y Neges. Roedd yn heddychwr mawr ac yn flaenllaw wrth sefydlu Undeb Cymreig y Cenhedloedd Unedig ac yn ddiweddarach UNESCO. Credai mewn dod â phlant y cenhedloedd ynghyd, ac fe benderfynodd Syr Ifan y dylai’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd.

  Gwilym .jpg

Darlledwyd y neges am y tro cyntaf ar y BBC World Service ym 1924 ac erbyn heddiw mae’r neges yn ymddangos mewn sawl iaith ar y we, ac yn cyrraedd pedwar ban byd. 

Erbyn 1935, roedd 68 o wledydd wedi ymateb. Hyd yn oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd, danfonwyd y Neges yn ddi-dor. 

Ym 1946 derbyniwyd ymateb gan bobl ifanc Yr Almaen: “Mae’n flynyddoedd ers inni glywed oddi wrth blant Cymru. Mae hi wedi mynd yn ddu arnom ni. Hoffem ni glywed oddi wrthych eto.”

Ym 1948, daeth yr ymateb yma gan blant yn Siapan: "Rydym yn hapus iawn i wybod, wedi blynyddoedd lawer o unigrwydd, eich bod wedi danfon geiriau calonogol o gyfeillgarwch a chariad."

Yn y 50au rhoddwyd cyfrifoldeb i’r Urdd i gyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn flynyddol ar ddydd Ewyllys Da, 18 Mai, sef dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hâg ym 1899.

Dros y blynyddoedd mae pynciau'r Neges wedi cynnwys y bom atomig, ffoaduriaid, tlodi, rhyfel, trais a cynhesu byd eang. 

Os am weld mwy o ddelweddau hanesyddol ym ymwneud â'r Neges Heddwch, ewch i Casgliad y Werin

 

I ddarllen hanes Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2019 a gwylio'r fideo CLICIWCH YMA.