Cefndir a phwrpas Bwrdd Adnoddau Dynol yr Urdd

Mae gan y Bwrdd Adnoddau Dynol rôl ganolog i’w chwarae yn natblygiad a dyfodol yr Urdd.
Er mwyn sicrhau fod yr Urdd yn cyflawni ei strategaeth, mae’n hanfodol fod gennym ddiwylliant cadarnhaol sy’n galluogi, grymuso a datblygu'r gweithlu. Rydym am sicrhau ein bod yn denu, datblygu a chadw gweithlu talentog ac amrywiol sy’n perfformio ar lefel uchel ar gyfer aelodau'r Urdd gyda strwythur pwrpasol i gefnogi'r gwaith.

Nia Bennett

Nia Bennett

Cadeirydd Bwrdd Adnoddau Dynol

Yn aelod siartredig o’r CIPD a gydag achrediad mewn Strategaeth Busnes ac Arweinyddiaeth, mae Nia yn Gyfarwyddwr a Phrif Ymgynghorydd Cwmni Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol effectusHR. Bu Nia yn aelod o Banel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2011 cyn dod yn Gadeirydd yn Nhachwedd 2018. Bu i’r Ymddiriedolwyr ei chyfethol fel aelod o Bwyllgor Gwaith Gweithredol yr Urdd ym Mawrth 2020, a chafodd ei hethol fel Ymddiriedolwr ym Mawrth 2021.

Rôl y Bwrdd Adnoddau Dynol

  • Cefnogi'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr yr adran Adnoddau Dynol i lunio cynllun strategol i ddatblygu’r gweithlu gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol
  • Cefnogi denu, cadw a datblygu gweithlu cynhwysol
  • Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd cyflogaeth penodol
  • Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd