Cefndir Bwrdd Celfyddydau
Mae’r Bwrdd hwn yn darparu arbenigedd a chyngor er mwyn llywio cyfeiriad strategol yr adran Celfyddydau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn cynorthwyo’r adran yn ei gweledigaeth i ehangu cynnig celfyddydol gydol flwyddyn yr Urdd ynghyd â bod yn gyswllt i ddatblygu partneriaethau newydd i gyrraedd y nod. Mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr Celfyddydol Cymru, yn denu 76,000 o gystadleuwyr ac yn cyfrannu £11M i economi Cymru. Rydym yn angerddol dros sicrhau fod cynnig celfyddydol cenedlaethol a chymunedol yr Urdd yn parhau i esblygu a thyfu yn gynhwysol a bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan.
Gwenno Mair Davies
Cadeirydd Bwrdd Celfyddydau
Rwyf yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Uwchradd y Creuddyn ac wedi ymwneud ag Eisteddfodau a’r Celfyddydau yn ystod fy nghyfnod yn yr ysgol, y Brifysgol ac ers hynny fel hyfforddwraig. Mae gen i brofiad uniongyrchol o'r modd y gall yr Eisteddfod a chynnig celfyddydol yr Urdd arwain at fagu hyder, meithrin talent ac ehangu’r profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn rhinwedd fy swydd yn yr ysgol mae gen i brofiadau helaeth o gynllunio'n strategol, cadeirio cyfarfodydd, arwain a rheoli cydweithwyr, marchnata a chenhadu, gwerthuso yn ogystal wrth reswm â chael y gorau o bobl Ifanc yn addysgiadol ac o ran eu lles.
Mae aelodau y Bwrdd arbennig hwn, ar y cyd gyda’r cyfarwyddwr, yn gosod cyfeiriad strategol celfyddydol i’r Urdd, i sicrhau profiadau a chyfleoedd bythgofiadwy ym maes y Celfyddydau i blant a phobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.
Rôl y Bwrdd Eisteddfod a’r Celfyddydau
- Cefnogi'r cyfarwyddwr a staff yr adran i ddatblygu cynllun strategol yr adran gan gymeradwyo’r fersiwn terfynol.
- Adolygu (ar y cyd gyda staff yr Adran) nod strategol Adran yr Eisteddfod a’r Celfyddydau.
- Sicrhau atebolrwydd trwy graffu a monitro allbynnau a pherfformiad ariannol yr adran.
- Rhannu arweiniad a chefnogaeth mewn meysydd penodol ym maes y Celfyddydau.
- Cyflwyno argymhellion i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd.